DAVIES, JOHN (bu farw 1792), un o'r clerigwyr efengylaidd

Enw: John Davies
Dyddiad marw: 1792
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r clerigwyr efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

Yr oedd yn gyfoed ac edmygwr Daniel Rowland. Bu'n efrydydd yn Neuadd S. Edmund, Rhydychen, a bu'n rheithor plwyf Sharncote (nid ' Escourt'), Wiltshire, am 27 mlynedd (1765-92) (gweler Memoir J. Owen i Daniel Rowland, 179). Adwaenai Ddaniel Rowland, clywodd ef yn pregethu, a'i ddisgrifiad ef o'r pregethwr hwnnw ydyw'r gorau o ddigon ar glawr. Cyfieithodd i'r Saesneg wyth o bregethau Daniel Rowland (1772), a thrachefn dair eraill (1774).

Y mae'n bosibl mai ef yw'r John Davies c.1700 - 1792, sydd gan Foster yn Alumni Oxonienses.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.