DAVIES, JOHN ('John Davies, Nantglyn'; 1760 - 1843), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Enw: John Davies
Ffugenw: John Davies, Nantglyn';
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1843
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ni ellir yma wneuthur cyfiawnder â'r gwreiddioldeb a'i nodweddai, ond y mae Cofiant byr iddo gan T. Parry (Caerlleon, 1844), a chynhwysir ei hunangofiant yn hwnnw - gweler sylwadau Henry Rees arno, yn Y Drysorfa, 1844, 151; ganwyd 1 Hydref 1760 yn y Glythan Uchaf, Henllan (Dinbych), ac ni chafodd ysgol ond yn un o ysgolion Madam Bevan. Argyhoeddwyd ef yn 1778 gan John Evans o Gil-y-cwm, a dechreuodd bregethu yn 1785; yr oedd yn un o'r rhai a ordeiniwyd yn urddiad cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn 1811. Serch iddo ddioddef cryn erlid, enillodd boblogrwydd mawr fel pregethwr, ledled Cymru ac yn Llundain. Priododd yn 1787 (bu ganddo bump o blant), a symudodd i fyw yn Nant-yr-hengoed, Nantglyn; ar farw ei briod (1837) aeth i fyw yn nhref Ddinbych. Bu farw 10 Mehefin 1843.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.