DAVIES, JOHN (1784 - 1845), gweinidog Wesleaidd

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1784
Dyddiad marw: 1845
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd yn Helygain, 7 Hydref 1784, mab Thomas ac Elizabeth Davies. Aeth i'r weinidogaeth yn 1806. Sefydlwyd ef yn gyntaf ar gylchdaith Llangollen, a ymestynnai o Lanarmon-yn-Iâl i Lanidloes. Wedi dwy flynedd yno a dwy ym Miwmares, symudwyd ef i Lanbedr Pont Steffan, a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes yng nghylchdeithiau'r De. Etholwyd ef yn ysgrifennydd y dalaith, a gynhwysai Gymru gyfan; yna'n gadeirydd - ddwywaith, 1827-8, ac wedi rhannu'r dalaith yn Dde a Gogledd, yn gadeirydd y De, 1844-5. Cadwai gyfrif manwl o'i weithgarwch. Pregethai ar gyfartaledd tua 350 o weithiau'n flynyddol, a theithiodd yn ystod ei weinidogaeth tua 181,000 o filltiroedd, yn bennaf ar droed. Yr oedd yn un o arweinwyr y diwygiad dirwestol o 1836 ymlaen. Ystyrid ef yn ŵr doeth, pwyllog, gwrol, yn rhagori fel swyddog a threfnydd. Bu farw ym Merthyr Tydfil, 21 Rhagfyr 1845.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.