DAVIES, JOHN (1795 - 1861), offeiriad ac athronydd

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1861
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac athronydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Williams James

Ganwyd yn Llanddewi-brefi, Rhagfyr 1795, mab John a Jane Davies, Hendre Phylip. Bu'n ddisgybl i Eliezer Williams, mab Peter Williams, yn Llanbedr-Pont-Steffan, ac aeth i Goleg Queens ', Caergrawnt, yn 1820 (B.D. 1831, D.D. 1844). Cafodd ei ordeinio yn Norwich a'i ddewis yn rheithor S. Pancras, Chichester; yn 1840 fe'i ceir yn rheithor Gateshead, swydd Durham, a meistr ' King James's Hospital,' Durham. Yn 1853 fe'i gwnaethpwyd yn ganon mygedol Durham. Ymddiswyddodd yn 1860 a bu farw 21 Hydref 1861 yn Ilkeley Wells, sir Gaerefrog.

Ysgrifennodd yn helaeth. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae (a) Essay on the Old and New Testaments, 1843, (b) The Ordinances of Religion, (c) First Impressions - a description of Swiss and French scenery, (d) The Cultivation of the Mind, a (e) ei waith mwyaf a phwysicaf, The Estimate of the Human Mind, 1828, ail arg. yn 1847.

Haedda dau o'i blant gyfeirio atynt: SARAH EMILY DAVIES (1830 - 1921), sefydlydd Coleg Girton, i ferched, yng Nghaergrawnt; a JOHN LLEWELYN DAVIES (1826 - 1916), cymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt, ' Hulsean Lecturer ' yn y brifysgol honno, ' Lady Margaret Preacher ' yn Rhydychen, yntau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cwestiwn addysg uwch i ferched, a chyfaill Frederick Denison Maurice; y mae'n adnabyddus iawn fel cyd-gyfieithydd Gwladwriaeth Platon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.