DAVIES, JOHN (1823 - 1874), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1874
Rhiant: Elizabeth Davies
Rhiant: Daniel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Harris Lewis

Mab Daniel ac Elizabeth Davies; ganwyd ef 1 Mai 1823 mewn bwthyn gerllaw Capel Sardis, Llanymddyfri. Cafodd ryw ychydig o ysgol ym Myddfai. Yn 1841 aeth i ysgol Hanover, ger y Fenni, i ymbaratoi ar gyfer Coleg Aberhonddu lle y derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn 1842. Bu'n weinidog yn Llanelli (sir Frycheiniog), 1846, Aberaman, 1854, Mount Stuart (Caerdydd), 1863, a Hannah Street (Caerdydd), 1868-74. Bu farw 8 Mai 1874, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Caerdydd.

Bu'n amlwg iawn ym mudiadau ei enwad ac ym mywyd cyhoeddus y De. Cyhoeddodd Y Doniau Gwyrthiol, 1851, i wrthweithio dylanwad y Mormoniaid yng Nghymru. Bu'n gysylltiedig â'r Gwron a'r Gwladgarwr, ac yn olygydd Y Beirniad ; bu iddo hefyd ran flaenllaw yn y gwaith o gychwyn Yr Adolygydd, 1850. Yr oedd yn weithiwr selog o blaid Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, y mudiad i godi achosion Seisnig yn y De, a'r mudiad i adeiladu Coleg Coffa Aberhonddu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.