DAVIES, JOHN ('John Davies, Taihirion'; 1825 - 1904), gweinidog Annibynnol

Enw: John Davies
Ffugenw: John Davies, Taihirion
Dyddiad geni: 1825
Dyddiad marw: 1904
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Harris Lewis

Ganwyd yn Nhreforus, Sir Forgannwg. Ordeiniwyd ef yn 1851 yn weinidog ar eglwysi Taihirion a'r Efail Isaf, Sir Forgannwg. Sefydlodd achos newydd yn y Bronllwyn yn 1858. Rhoddodd fugeiliaeth Taihirion i fyny yn 1893 ac eiddo'r Bronllwyn yn fuan wedyn. Bu farw 16 Medi 1904. Bu'n weinidog yr Efail Isaf hyd ddiwedd ei oes a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Efail Isaf.

Er bod John Davies yn ŵr amlwg yn ei enwad, ac yn un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Genhadol Llundain, teimlwyd ei ddylanwad yn bennaf yn ei fro ei hun, a sonnid amdano fel 'Esgob y Fro.' Bu'n effro o blaid addysg. Oherwydd ei ymdrechion ef yn bennaf y sefydlwyd Ysgol Frutanaidd Llanilltud y Faerdref, a bu am flynyddoedd yn aelod o fwrdd ysgol Pentyrch. Yn 1879 cyhoeddodd Bras Linelliad Hanesyddol o Gyfundeb Annibynol Dwyreiniol Morganwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.