DAVIES, JOHN ('Gwyneddon'; 1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr

Enw: John Davies
Ffugenw: Gwyneddon
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1904
Plentyn: Robert Gwyneddon Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd ym Mangor 1832. Prentisiwyd ef yn argraffydd; bu ar staff olygyddol y North Wales Chronicle ac yn golygu Cronicl Cymru, 1866. I hwnnw ysgrifennodd 'Dyddlyfr Oliver Jenkins.' Yn 1868 sefydlodd fel argraffydd yng Nghaernarfon; o'i swyddfa ef y cychwynnwyd Y Goleuad, 30 Hydref 1869, ac ef oedd y golygydd cyntaf. Y mae ei nodiadau ar y tudalen cyntaf yn profi ei fedr fel newyddiadurwr. Ymhen rhai blynyddoedd newidiodd ei waith a phenodwyd ef yn rheolwr banc Pughe a Jones yng Nghaernarfon, ac ystyrid ef yn ddyn busnes da. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd y dref a bu'n faer. Ar un adeg bu'n ysgrifennu erthyglau arweiniol i'r Genedl Gymreig. Yr oedd yn awdur un emyn adnabyddus, sef yr emyn diolch sydd yn dechrau 'Anfeidrol Dduw rhagluniaeth…' Bu farw yng Nghaernarfon, ddiwedd Ionawr, 1904.

ROBERT GWYNEDDON DAVIES (1870 - 1928), cyfreithiwr

Mab iddo, awdur cyfieithiad i'r Saesneg o'r Bardd Cwsc, 1897 (ail arg. 1909), a fu farw 17 Ebrill 1928, yn 58 oed. Yr oedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.