DAVIES, JOHN (1868 - 1940), awdur

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1940
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Metws-yn-Rhos, 23 Hydref 1868; yr oedd yn gefnder i John Evans, Eglwysbach. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute, a bu am flynyddoedd lawer yn glerc yng ngwasanaeth y Great Western Railway, yng Nghasnewydd, Caerdydd, a Bridgwater; yng Nghaerdydd y bu fyw wedi ymddeol, ac yno y bu farw 15 Mawrth 1940; claddwyd ef yn Llanishen. Ar hyd ei fywyd, bu'n ddarllenwr gwancus ac yn brynwr mawr ar lyfrau; sgrifennai hefyd, yn dda, i'r Eurgrawn, y Drysorfa, a chyfnodolion eraill. Enillodd wobrau am draethodau yn eisteddfodau cenedlaethol 1930, 1931, a 1939. Yr oedd yn wladgarwr brwd, ac un o ffrwythau ei alltudiaeth yn Bridgwater fu ymddiddori yn hanes Cymro arall a fu'n byw yno, sef Moses Williams. Troes y chwilfrydedd hwn ef yn chwilotwr dygn; wedi ymddeol, teithiodd lawer i ddarllen llawysgrifau a chasglu ffeithiau at lyfr helaeth ar fywyd Moses Williams. Cyhoeddwyd Bywyd a Gwaith Moses Williams gan Brifysgol Cymru yn 1937, ond ar raddfa lawer llai nag y bwriadai'r awdur (gweler Archæologia Cambrensis, Mehefin 1938, 152-4).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.