DAVIES, JOHN LLOYD (1801 - 1860), Blaendyffryn ac Alltyrodyn, Llandysul, aelod seneddol

Enw: John Lloyd Davies
Dyddiad geni: 1801
Dyddiad marw: 1860
Priod: Elizabeth Davies (née Bluett)
Priod: Anne Davies (née Lloyd)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol
Cartref: Blaendyffryn Alltyrodyn
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd yn Aberystwyth ar 1 Tachwedd 1801. Hyfforddwyd ef yn y gyfraith ac erbyn ei fod yn 24 mlwydd oed yr oedd wedi ymrestru'n gyfreithiwr yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn 1825 priododd Anne, merch John Lloyd, Alltyrodyn, a thrwy'r briodas yr etifeddodd yr ystad honno. Priododd yr eilwaith yn 1857 ag Elizabeth Bluett, unig ferch Thomas Bluett Hardwicke, Tytherington Grange, sir Gaerloyw.

Yr oedd yn ynad heddwch ac yn ddirprwy raglaw dros siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, ac yn uchel siryf sir Aberteifi yn 1845. Yn 1855 fe'i etholwyd yn aelod seneddol dros Fwrdeisdrefi Aberteifi ond fe ymddeolodd yn yr etholiad cyffredinol ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ceidwadwr ydoedd mewn gwleidyddiaeth ac yn aelod selog o'r Eglwys.

Yn ystod gwrthryfel Beca ef oedd prif wrthwynebydd y rhai a dorrai'r clwydi yn ardal Llandysul. Gweithiodd i sicrhau rheilffordd o Gaerfyrddin i Landysul a llwyddodd yn ei amcan.

Bu farw 21 Mawrth 1860 yn 59 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.