DAVIES, EDWARD OWEN (1864 - 1936), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: Edward Owen Davies
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1936
Priod: Mary Gwendoline Davies (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Katharine Monica Davies

Ganwyd 8 Mehefin 1864, yn Betws Gwerfyl Goch. Bu yn yr Ysgol Frutanaidd yng Nghorwen, a phenodwyd ef yn 12 oed yn ddisgybl-athro yn yr ysgol honno. Yn 1881 aeth i Goleg Normal Bangor, a bu yn athro cynorthwyol yn ysgol ganolradd Blaenau Ffestiniog, 1884-5. Derbyniwyd ef yn ymgeisydd am y weinidogaeth yn 1885 ac aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan ennill ei B.Sc. (Llundain) yn 1889. Astudiodd ymhellach yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, ac ym mhrifysgolion Bonn, Heidelberg, Gottingen, a Kiel. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n fugail ar eglwys Gymraeg Garston, Lerpwl, o 1893 hyd ei ddewis yn athro mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Diwinyddol y Bala yn 1897, lle yr arhosodd am 10 mlynedd. Yn 1904, priododd Mary Gwendoline, merch William a Catherine Jones, Tyrol, Aigburth Drive, Lerpwl.

Yn 1910 symudodd i fugeilio capel Siloh, Llandudno. Yn 1913 traddododd y ' Ddarlith Davies ' ar ' Gwyrthiau Iesu Grist,' ac yn 1919 ymgymerth â'r swydd o ysgrifennydd cyffredinol Comiswn Ad-drefnu Cymdeithasfa'r Gogledd. Daeth ei waith dros y comisiwn i ben yn llwyddiannus yn 1933 pan basiwyd y mesur seneddol i wella cyfansoddiad yr eglwys ac i ledu ei hawliau. Dewiswyd ef yn llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1922 a 1935, ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1928. Bu'n ysgrifennydd cyd-bwyllgor llyfr emynau newydd y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, 1924-6. Yn 1925 ymddiswyddodd o fugeiliaeth eglwys Siloh, Llandudno, a symudodd i fyw i Fangor. Rhoddodd Prifysgol Cymru iddo'r radd anrhydeddus o M.A. yn 1923 a D.D. yn 1935. Bu farw ym Mangor, 14 Rhagfyr 1936.

Cyhoeddodd (a) Theological Encyclopaedia: an Introduction to the Study of Theology, 1905; (b) Prolegomena to Systematic Theology : a Study of Authority, 1909 (ac, yn iaith Japan, yn Tokyo, 1914); (c) The Miracles of Jesus: a Study of the Evidence, 1913 (ac, yn iaith Japan, yn Tokyo, 1919); (ch) Gwyrthiau Iesu Grist, 1915; (d) Ffydd, Trefn, a Bywyd, 1930.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.