DAVIES, JOHN PARK (1879 - 1937), prifathro Coleg Caerfyrddin

Enw: John Park Davies
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1937
Priod: Gwenllian Hawys Davies (née Jenkins)
Rhiant: Mary Davies
Rhiant: Eleazar Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Islan Jones

Ganwyd 28 Mai 1879, yn Blaenpant-y-Creuddyn, Llandysul, mab Eleazar a Mary Davies. Cafodd ei addysg yn ysgolion elfennol a chanolradd Llandysul cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn yr ieithoedd Semitaidd (1902). Aeth i Goleg Manchester, Rhydychen, yn 1902, cafodd wobr Hebraeg Russell Martineau, 1904, gwobr 'University Hall,' a gwobr Syrieg Houghton, 1905. Bu hefyd yng Ngholeg Wadham yn Rhydychen. Fe'i dewiswyd yn ' Ysgolor Hibbert ' ac aeth i Brifysgol Harvard, U.D.A., gan raddio'n B.D. yno yn 1907. Bu'n weinidog gyda'r Undodiaid ym Mhontypridd, 1908-13, yn yr hen gapel Presbyteraidd, Nantwich, 1913-24, a chapel Gateacre, Lerpwl, 1924-6, Fe'i dewiswyd yn brifathro 'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, ac yn weinidog capel Parc-y-velvet, 1926. Priododd Gwenllian Hawys Jenkins, Aberdâr, 11 Mehefin 1911, a bu farw 21 Mai 1937 a'i gladdu ym Mhantydefaid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.