Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVID , PHILIP ( 1709 - 1787 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Mhenmain , sir Fynwy ;

g. 11 Mehefin 1709 , yng Nghwm Ebwy Fawr . Tueddwyd ef at grefydd tua 1720 gan bregethu James Davies o Ferthyr Tydfil [q.v.] ; dechreuodd bregethu ei hunan yn 1732 ; ac yn 1739 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol i David Williams (a fu yno o 1710 hyd ei f. yn 1759 ) ym Mhenmain . Bu yno hyd ei f. 3 Chwefror 1787 . Tua 100 oedd rhif yr eglwys ar hyd ei weinidogaeth. Gŵr ceidwadol a chrabet oedd Philip David , ac y mae ei ddyddiaduron (anghyhoedd) yn ddrych hynod ddiddorol o ragfarn hen ‘Sentar sych’ yn erbyn y dulliau Methodistaidd a oedd yn ennill y dydd ymysg yr Annibynwyr Cymreig erbyn diwedd ei ddyddiau ef. Nai iddo ef oedd Philip Charles o Gefn-coed-cymer [q.v.] .

Ffynonellau:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , i, 26-8;
  • Y Dysgedydd , Mai 1934 ;
  • Y Cofiadur , 1935 , 37.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54