DAVIES, RACHEL ('Rahel o Fôn '; 1846 - 1915), pregethwr a darlithydd

Enw: Rachel Davies
Ffugenw: Rahel O Fôn
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1915
Priod: Edward Davies
Plentyn: Joseph Edward Davies
Rhiant: Jane Mary Paynter (née Williams)
Rhiant: William Cox Paynter
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: pregethwr a darlithydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ym Môn (?), merch William Cox Paynter o blwyf Llanfihangel-y-pennant, Sir Gaernarfon, a'i wraig Jane Mary (Williams), Cae Eithin Tew, Cwmystradllyn, yn yr un sir. (Bu rhai o hynafiaid ei thad yn swyddogion tollau'r Llywodraeth ym Minffordd a Llanfrothen, Sir Feirionnydd, ac yn Porthmadog, Sir Gaernarfon). Pan oedd yn ieuanc bu'n byw yn Brynsiencyn, sir Fôn. Codwyd hi i bregethu gyda'r Bedyddwyr. Tua'r flwyddyn 1865 daeth i amlygrwydd trwy ddarlithio led-led Cymru ar anffyddiaeth; creodd hefyd gryn gyffro ymysg y Bedyddwyr am ei bod hi, a hithau'n ferch, yn esgyn i'w pulpudau i bregethu. Yn gynnar ar ôl 1866 ymfudodd i U.D.A. a thra y bu'n byw yn Ixonia ymaelododd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (gyda'r Annibynwyr yn ôl Blackwell). Pregethai yn aml yn nhalaith Ohio c. 1871. Dychwelodd am gyfnod i fyw yn Dwyran, sir Fôn, a'r pryd hwnnw bu'n cynorthwyo ymgais David Lloyd George i fyned i'r Senedd. Priododd, yn U.D.A., yn 1872, Edward Davies, brodor o Sir Aberteifi. Bu farw 29 Tachwedd 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.