DAVIES, REUBEN ('Reuben Brydydd y Coed'; 1808 - 1833), bardd ac ysgolfeistr

Enw: Reuben Davies
Ffugenw: Reuben Brydydd Y Coed
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1833
Rhiant: Beti Davies
Rhiant: Dafydd Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 1808, mab i 'Dafydd y Gwehydd a Beti ' o Danrallt, Cribin, Sir Aberteifi. Bu yn yr ysgol yng Nghribin ac Ystrad dan y Parch. T. J. Griffiths ('Tau Gimel a'r Parch. Rees Davies, Ystrad. Yr oedd ei fryd ar y weinidogaeth Undodaidd, a derbyniwyd ef i Goleg Caerfyrddin yn 1825, ond pallodd ei iechyd ac ni bu yno ond amser byr. Bu yn ysgolfeistr yng Nghribin, ac, yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, yng Nghilmaenllwyd, Caerfyrddin. Cyfieithodd lawer o weithiau awduron Groeg a Rhufain i'r Gymraeg, yn enwedig gweithiau Ovid. Yr oedd copi gwreiddiol o'i weithiau ym meddiant y Parch. Rees Jenkin Jones, Aberdâr, ac y mae copi ohonynt gan y Parch. D. Evans, y Cribin. Cyfansoddodd dros 50 o emynau, a safai yn uchel ym marn Daniel Evans ('Daniel Ddu') fel emynydd. Heblaw'r emynau gadawodd ar ei ôl ddarn o farddoniaeth - 'Dydd Barn' - ynghyd a chaneuon, nifer o englynion, ac awdl goffa i'r Parch. D. L. Jones (Glynadda) o Goleg Caerfyrddin. Bu farw 8 Ionawr 1833 yn 25 mlwydd oed, a gorwedd ym mynwent eglwys Dihewyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.