DAVIES, RHYS ('Y Glun Bren '; 1772 - 1847), pregethwr hynod

Enw: Rhys Davies
Ffugenw: Y Glun Bren
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: 1847
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr hynod
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 1772 yng nghymdogaeth Castellnewydd Emlyn. Dechreuodd bregethu yn ifanc gyda'r Annibynwyr; addysgwyd ef gyda J. Griffiths, Glandŵr, Penfro. I Ogledd Cymru yr aeth i ddechrau a bu'n cadw ysgol ym Mhennal, Dinas Mawddwy, a lleoedd eraill ym Maldwyn a Dinbych. Yn 1796 yr oedd mewn cymanfa ym Mhenarth, aeth yn orfoleddus yno a sangwyd ar ei droed gan ŵr corffol o'r enw John Rogers; o ddiffyg ymgeleddu'r anaf a gafodd, gorfu torri ei goes i ffwrdd a bu raid iddo wrth glun bren. Ychwanegodd hyn at ei hynodrwydd. Gŵr sarrug a blaenllym ei dafod, meddai ddawn ymadrodd hylithr, yn enwedig fel gweddïwr. Gwnâi ystumiau afrywiog wrth bregethu a gweddïo, a hynny er difyrrwch mawr i bobl ieuainc. Adroddir am ddau amgylchiad diddorol iawn yn ei hanes. Yn 1803, ar gais Mrs. Anwyl, Llugwy, aeth o Bennal i Dalybont, Sir Aberteifi, i bregethu. Ef oedd yr Annibynnwr cyntaf i fyned yno ac oddi ar garreg-farch gwesty y ' Black Lion ' y traddododd ei bregeth. Hyn a fu'r achlysur i gychwyn yr achos Annibynnol yn y lle. Dro arall, pregethai yn ffermdy Bedd y Coediwr, Trawsfynydd, nes cael dylanwad rhyfedd ar lanc ifanc iawn a ddaeth wedi hynny yn un o bregethwyr mwyaf Cymru a adnabyddid fel 'Williams o'r Wern.' '

Arferai ar ei deithiau werthu 'Llythyrau Cymanfa,' a diau iddo drwy hynny wneuthur llawer o les i ardaloedd gwledig. Ymsefydlodd yn niwedd ei oes yn ardal Saron, Llangeler, ac yno y bu farw 6 Ionawr 1847.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.