Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , RICHARD ( 1501? - 1581 ), esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur ,

mab Dafydd ap Gronw , curad y Gyffin , a Sioned ei wraig, ill dau o waed bonheddig. Ymaelododd yn Neuadd y New Inn yn Rhydychen , a graddio yn M.A. ar 28 Mehefin 1530 ac yn B.D. ar 28 Mehefin 1536 . Yn ôl pob tebyg dan ddylanwad Protestaniaeth Rhydychen , fe'i gwnaed ar gymeradwyaeth y brenin yn 1549 yn rheithor Maidsmorton ac yn 1550 yn ficer Burnham — dau le yn sir Buckingham . Priododd Dorothy Woodforde , Burnham .

Pan ddaeth Mari i'r orsedd, galwyd Davies gerbron y Cyngor Cyfrin a chollodd ei fywiolaethau. Aeth ar ffo gyda'i deulu i Frankfort yn 1555 , ac yno y bu mewn alltudiaeth hyd 1558 .

Yn 1559 yr oedd yn bennaeth y comisiwn brenhinol a ddewiswyd i ymweled â Henffordd , Caerwrangon , ac esgobaethau Cymru . Etholwyd ef yn esgob Llanelwy ar 4 Rhagfyr 1559 , a'i gysegru yn Lambeth ar 21 Ionawr 1560 , ac oherwydd tlodi'r esgobaeth (£187 11s. 6ch.) cafodd ganiatâd i ddal ‘in commendam’ ei ddwy fywoliaeth yn sir Buckingham a dwy arall yn Llanelwy . Yn gynnar yn 1560 anfonodd restr o'i offeiriaid i'r archesgob Parker .

Etholwyd ef yn esgob Tyddewi ar 21 Mawrth 1561 , yn olynydd i Thomas Young [q.v.] , a chymerth y llw ar 18 Mai , ond nid oes yn ei gofrestr ddim cofnod cyn Medi 1561 . Byddai'n bresennol yn gyson yn y Confocasiwn a Thŷ'r Arglwyddi , ond ni wnaeth enw iddo ei hun yno. Pwysodd yr awdurdodau gwladol ac eglwysig yng Nghymru fel ei gilydd ar ei ddoniau gweinyddol. Yr oedd yn aelod o Gyngor y Gororau ac yn aml yn gomisiynydd arbennig iddo, ac i'r Cyngor Cyfrin yn ogystal. Rhoes ei gyngor yn etholiad esgobion Llandaf a Bangor yn 1566 . Yr oedd yn llym ei feirniadaeth ar swyddogion uchelgeisiol, ond cyhuddwyd yntau gan Fabian Phillips o anghyfiawnder a phleidgarwch dybryd. Y mae ei gofrestr, ei adroddiadau ( 1563 , 1570 , 1577 ), a'i bregeth angladdol ( Funeral Sermon ) ar farwolaeth iarll Essex ( 1577 ) yn llawn gwybodaeth werthfawr am ei weithgarwch yn ei esgobaeth. Ei anawsterau pennaf yn ei berthynas â'i offeiriaid oedd eu tlodi, eu hamlfywiolaethau, eu hanwybodaeth, a'u ceidwadaeth, a phrinder pregethwyr ac ymgeiswyr. Fe'i poenwyd hefyd gan olion y grefydd Gatholig , mewn credo ac arfer, a chan glaerineb crefyddol a thrachwant y boneddigion. Yn arbennig, bu'n frwydr cherw o 1566 hyd ei farw i brofi ei hawliau ar eglwys Llanddewibrefi . Cyhuddwyd ef gan ei olynydd ac eraill o gyflwyno bywiolaethau a rhannu tiroedd yr esgobaeth yn anystyriol neu ynteu er budd iddo ef ei hun a'i deulu, ond er nad yn gwbl ddieuog y mae'n amlwg oddi wrth dystiolaeth cofnodion y cabidwl nad oedd yn gymaint pechadur ag yr awgrymwyd.

Daeth Davies i fri fel ysgolhaig . Iddo ef yr ymddiriedodd yr archesgob Parker y gwaith o gyfieithu Ioshua — 2 Samuel ym ‘ Meibl yr Esgobion ’ ( 1568 ). Cadwodd safon uchel o ddysg a chroeso yn ei gartref, bu'n noddwr hael i feirdd , a chanodd ei hun rai englynion canolig. I hwyluso cyfieithiad Cymraeg y Beibl wedi Deddf 1563 , gwahoddodd William Salesbury i Abergwili , a ffrwyth eu cydlafur yno oedd Llyfr Gweddi a Thestament Newydd 1567 . Priodolir y cyntaf o'r ddau fel rheol i Davies , ond y mae ei arddull yn fwy nodweddadol o Salesbury . Davies biau'r Epistol at y Cembru a'r cyfieithiad o 1 Timotheus a Hebreaid — 2 Pedr o'r Testament . Dywedir mai ffrae a'u cadwodd rhag gorffen yr Hen Destament yn ôl eu bwriad, ond dengys ei lawysgrifau iddo ddechrau aildrosi rhannau o'r Testament Newydd . Bu f. 7 Tachwedd 1581 .

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • D. R. Thomas , The Life and Work of Bishop Davies and William Salesbury , 1902 ;
  • W. J. Gruffydd , Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 , 26-9, 50-6;
  • Journal of the Historical Society of the Church in Wales , 1949 ff ;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1948 ;
  • Cofrestri esgobol Tyddewi, 1554-65 , yn Ll.G.C.

Awdur:

Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54