DAVIES, ROBERT ('Asaph Llechid,' 1834 - 1858), cerddor

Enw: Robert Davies
Ffugenw: Asaph Llechid
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: David Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 29 Mehefin 1834 yn y Carneddi, gerllaw Bethesda, mab i David Roberts. Hoffai gerddoriaeth yn blentyn, a rhoddodd ei fryd ar feistroli'r gelfyddyd. Cafodd ei wersi cyntaf gan Robert Moses, athro Cymdeithas Gerddorol Cantorion y Carneddi. Rhoddodd ' Eos Llechid ' wersi iddo mewn cynghanedd a chyfansoddiant, a daeth yn gynganeddwr da. Yn 16 oed yr oedd wedi cyfansoddi amryw donau ac anthemau ac ennill gwobrwyon mewn eisteddfodau. Cyfansoddodd tua dwsin o anthemau. Cyhoeddodd ei anthem ' Dyn a aned o wraig,' a daeth yn anthem angladdol boblogaidd yn ardaloedd chwareli Gogledd Cymru hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Bu farw trwy gael ei daro â darn o graig yn chwarel Caebraichycafn, 29 Awst 1858 a chladdwyd ef ym mynwent Llanllechid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.