DAVIES, (Syr) ROGER (fl. c. 1500), bardd ac offeiriad

Enw: Roger Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac offeiriad
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David Jenkins

Ceir tri chywydd ganddo yn Peniarth MS 104 , sef 'Cywydd i'r chwaryddion cardiau,' 'Cywydd yr Eira,' a 'Cywydd a wnaeth gŵr a gollasai'r ffordd ac a syrthiodd ymhlith y Tylwyth Teg ac yna i'r afon.' Nid ymddengys gadw dim mwy o'i waith, ac ni wyddys brodor o ba le ydoedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.