DAVIES, Syr DAVID SAUNDERS (1852 - 1934), aelod seneddol

Enw: David Saunders Davies
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1934
Priod: Jane Emily Davies (née Gee)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 11 Mai 1852, ac urddwyd yn farchog yn 1918. Dyn busnes ym Manceinion oedd ef, a bu'n aelod seneddol dros ranbarth Dinbych, 1918-22. Priododd, 1886, Jane Emily, ferch Thomas Gee, ac wedi marw ei dad-yng-nghyfraith daeth yn berchennog Baner ac Amserau Cymru. Bu farw 28 Chwefror 1934.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.