DAVIES, DAVID STEPHEN (1841 - 1898), pregethwr, dirwestwr, llenor, a gwladfawr

Enw: David Stephen Davies
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1898
Priod: G. Davies (née Stephens)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr, dirwestwr, llenor, a gwladfawr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd yn Brynffynnon, Plasmarl, Abertawe, 14 Chwefror 1841, mab i John Davies, gweinidog Mynydd-bach, Llangyfelach. Ar farwolaeth ei dad wrth ei waith fel arolygydd glofa yn 1854, gorfu i'r bachgen adael ei ysgol a mynd i weithio ar agerbeiriant yn Aberdâr. Oherwydd y streic, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1857. Dechreuodd bregethu yn Holidaysburg, addysgwyd ef yn y Wyoming Seminary, Kingston, a'r Western Theological Seminary, Allegany, a chafodd ei ordeinio yn weinidog Emmett ac Ixonia yn 1862; priododd Miss G. Stephens, Wisconsin, yr un flwyddyn. Symudodd i Dentor yn 1864, yna i Centreville, ac i Efrog Newydd yn 1872. Ffurfiodd gwmni ymfudol a phrynwyd y llong Rush a'i hanfon gyda 29 o ymfudwyr i'r Wladfa ym Mhatagonia, ond aeth y rheini ar chŵal yn Montevideo. Casglodd fintai arall yn cynnwys 42 o ymfudwyr, ac yntau yn eu plith, yn berchenogion y llong Electric Spark o 200 tunnell, a'r llwyth o 250 o dunelli ac yn cynnwys offer amaethu; ond aeth y llong yn ddrylliau ar draeth Brazil, collwyd y llwyth, a thrwy fawr drafferth y cyrhaeddodd yr ymfudwyr i'r Wladfa mewn tlodi. Aeth y sôn eu bod wedi boddi i'r Unol Daleithiau, a thraddodwyd pregeth goffa a chyhoeddwyd ysgrifau coffa yno er cof am D. S. Davies. Ymhen pedwar mis dychwelodd o'r Wladfa i Gymru, a derbyniodd wahoddiad i fugeilio Ebeneser, Bangor, yn 1875 fel olynydd i Robert Thomas ('ap Vychan'). Aeth i gyrchu ei deulu o Efrog Newydd, a threfnodd yno i long arall, y Lucerne, fynd allan i'r Wladfa, ond ni bu llwyddiant i'w mordaith hithau ychwaith. Symudodd i fugeilio eglwys Union Street, Caerfyrddin, yn 1886, a bu yno hyd ei farwolaeth ar 29 Hydref 1898. Bu'n olygydd Y Celt, a chyhoeddodd rai llyfrau, sef Llawfer, Ystyr Bedydd, Adroddiad (1875) yn cynnwys manylion am y Wladfa i ddenu ymfudwyr, Y Cymro: Llawlyfr y Wladfa (1881), ac Atodiad i'r Cymro (1882).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.