DAVIES, THOMAS (1823 - 1898), Llanelli;

Enw: Thomas Davies
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1898
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Morris Brynllwyn Owen

Ganwyd yng Nglanyrafon, Pencarreg, 17 Rhagfyr 1823. Yn 1839 symudodd ei rieni i Ddowlais ac ymunodd yntau yn 1840 â Bethania, lle y dechreuodd bregethu yn 1846. Wedi ysbaid yn ysgol Ffrwd-y-fàl derbyniwyd ef i Goleg Coffa Aberhonddu yn 1848. Ym Mehefin 1852 urddwyd ef ym Methel, Llansamlet, ond symudodd i Siloa, Llanelli, yn Ionawr 1854, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu'n olygydd Y Diwygiwr o 1865 hyd 1879. Darlithiodd ac ysgrifennodd lawer ar bynciau gwyddonol, a chyhoeddodd gyfrol o bregethau. Bu farw 29 Chwefror 1898.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.