DAVIES, THOMAS (1851 - 1892), cerddor

Enw: Thomas Davies
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Ebbw Vale, 1851. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i fabwysiadu cyfundrefn y sol-ffa yn Ne Cymru. Cyfansoddodd tua chwech o anthemau - ' Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn ' yn eu plith. Bu'n llwyddiannus fel arweinydd cymanfaoedd canu ac athro cerddoriaeth. Bu farw 20 Rhagfyr 1892 a'i gladdu yng nghladdfa Ebbw Vale, 24 Rhagfyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.