Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DEE , JOHN ( 1527 - 1608 ), mesuronydd a seryddwr ;

g. 13 Gorffennaf 1527 , yn Llundain , mab Rowland Dee , boneddwr yng ngwasanaeth Harri VIII . Yr oedd yn ŵyr i Bedo Ddu o Nant-y-groes , Pyllalai (Pilleth), Maesd. a chadwodd ei gysylltiad â'r ardal. Hanoedd y teulu o sir Faesyfed (gw. J. D. Rhys , Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones , 60); lluniodd Dee ei hun ach a amcanai ddangos ei fod o hil Rhodri Mawr . Er nad oes tystiolaeth o blaid yr hyn a ddywedir yn Arch. Camb. , 1858 , 472, sef ei fod yn frodor o Fugeildy , ger Trefyclawdd , sir Faesyfed , dengys ei ysgrifau bywgraffyddol fod ganddo nifer o Gymry ymhlith ei gyfeillion neilltuol, megis rhai o'r Herbertiaid , John Dafydd Rhys , a Morris Kyffin . Ymhellach, y mae un llythyr o'i eiddo yn cysylltu ei deulu yn bendant â sir Faesyfed . Y mae y llythyr hwn yn awr yn Pen. MS. 252 , yn ei lawysgrifen ef ei hun, ac wedi ei gyfeirio at ‘cosens’ William , Thomas , a John Lewis . Yr olaf o'r rhain oedd y John Lewis o Lynwene , Llanfihangel Nant Melan , sir Faesyfed , i'r hwn y perthynai'r papurau sydd yn awr yn ffurfio'r MS a grybwyllwyd ( F. G. Payne yn N.L.W. Journal , i, 42-3). Enwir Lewis lawer gwaith yn nyddiadur Dee . Galwai Thomas Jones , ‘ Twm Siôn Cati ) yr oedd yn ymwneud tipyn ag ef, hefyd yn ‘ cousin ’.

Graddiodd Dee yng Ngholeg S. Ioan , Caergrawnt , 1544-5 , a phan sefydlwyd Coleg y Drindod yn 1546 , penodwyd ef yn un o gymrodyr gwreiddiol y coleg. Aeth ar daith i'r Iseldiroedd yn 1547 , a bu'n efrydydd yn Louvain o 1546 hyd 1550 . Yna fe aeth i Baris a darlithio ar fesuroniaeth yng Ngholeg Rheims yno gyda bri a llwyddiant. Gwrthododd wahoddiad i fod yn ddarlithydd parhaol yno, fel y gwnaeth â gwahoddiad cyffelyb o Rydychen yn 1554 . Bu f. Rhagfyr 1608 .

Cafodd waredigaeth brin rhag ei erlid yn amser y frenhines Mari , ond cafodd ffafr yng ngolwg y frenhines Elisabeth , a gwnaeth ei gartref ym Mortlake , ger Llundain . Eto, yn araf y deuai gwobrwyon materol, a bu raid iddo aros hyd 1595-6 cyn cyflawni o Elizabeth ei haddewid a'i wneud yn ‘Warden’ y coleg ym Manceinion , lle yr arhosodd hyd Tachwedd 1604 .

Meddai Dee ar fedr a dysg diddadl mewn mesuroniaeth a seryddiaeth , ond yr oedd braidd yn rhy barod i geisio addasu'r gwyddorau at broblemau peirianyddol. Gwelir hyn, er enghraifft, yn ei ragymadrodd dysgedig i argraffiad cyntaf gwaith Euclid yn Saesneg , 1570 . Er pan wnaeth argraff ddofn ar y gwrandawyr yng Nghaergrawnt gyda'i ddyfais gywrain ar y llwyfan pan yn cynhyrchu un o ddramâu Aristophanes , dioddefodd Dee yn anhaeddiannol oddi wrth ragfarn pobl anwybodus na welent yn ei fedrusrwydd ddim amgen na phrawf ei fod mewn cyfathrach ag ysbrydion drwg. Ysywaeth, tueddai ymddygiad Dee i gadarnhau'r rhagfarn. Nid oedd i'w feio am ei fod yn sêr-ddewin , oblegid yr oedd sêrddewiniaeth ar y pryd mor barchus â seryddiaeth , nac am ei fod yn alchemist , gan fod dysgedigion o fri yn ddiwyd iawn yn eu hymchwil am yr ‘eurfaen.’ Ond cyfeiliornodd Dee o ffyrdd gwyddonwyr didwyll pan ddechreuodd ddal cyfathrach ag ysbrydion . Y mae'n anodd esbonio sut y daeth i goleddu'r gred mewn ysbrydion. Efallai fod y twyll-ymddangosiadau a gynhyrchwyd gan ei wydr lledrith yn gyfrifol i raddau am y gred. Sut bynnag fe'i twyllwyd gan yr hocedwr rhonc, Edward Kelly , a dderbyniodd yn gyd-weithiwr. Yn neilltuol pan oeddynt yn trigo ym Mohêm o 1585 hyd 1588 , ymddiriedwyd i Kelly y gorchwyl o alw ar yr ysbrydion a dehongli eu neges. Nid rhyfedd i Iago I wrthod cais Dee am gyfiawnhad yn wyneb yr enllib ei fod yn un a alwai ar ysbrydion.

Nid oes modd mesur gwerth gweithiau Dee oherwydd bod y mwyafrif ohonynt eto mewn llawysgrif heb eu cyhoeddi. Ond pe bai wedi glynu wrth wyddoniaeth bur a pheidio ag ymyrryd a'r cyfrin a'r cudd, y mae'n lled amlwg y cyfrifid ef ymhlith arloeswyr blaenaf gwyddoniaeth.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The private Diary of Dr John Dee, and the catalogue of his library of manuscripts, from the original manuscripts in the Ashmolean Museum at Oxford and Trinity College Library, Cambridge , Llundain, Camden Society, 1842 ;
  • The Compendious Rehearsal of John Deehis dutifull declaration, and proofe of the course and race of his studious life … and of the very great injuries, damages, and indignities, which for these last nine years he hath in England sustained … made unto the two honourable commissioners, by her most excellent Majestie thereto assigned, etc. , Chetham Society, 1726 , cyfrol 24;
  • Miscellanies , i, 1851 ;
  • Charlotte Fell Smith , John Dee (1527-1608) , Llundain, 1909 ;
  • Bradney , The Radnorshire Society. Transactions , 1931 ff , 3 ( 1933 ), 10.
  • J. Roberts ac Andrew G. Watson , John Dee's Library Catalogue , Llundain, 1990 ( 1990 );
  • P. J. French , John Dee, the world of an Elizabethan magus , Llundain, 1972 ( 1972 );
  • Gwyn A. Williams , Welsh Wizard and British Empire John Dee and Welsh identity The Annual Gwyn Jones Lecture , Caerdydd, 1980 ( 1980 ).

Awduron:

John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54