DEIO ab IEUAN DU (fl. 1460-80), bardd

Enw: Deio ab Ieuan Du
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Dywaid ef ei hun mai yn y Creuddyn, Ceredigion, yr oedd ei gartref, a gelwir ef yn y llawysgrifau yn ' Deio Du o Benadeiniol.' Canodd i uchelwyr Morgannwg, Ceredigion, Meirionnydd, a Dinbych. Y mwyaf diddorol o wrthrychau ei fawl oedd Gruffudd Fychan o Gorsygedol, un o gefnogwyr mwyaf pybyr Siasbar Tudur yn y blynyddoedd 1460-8. Deio ab Ieuan Du yw awdur y llinell ' Y ddraig goch ddyry cychwyn '; y mae'n digwydd mewn cywydd i ofyn am darw yn rhodd gan Siôn ap Rhys o Lyn Nedd. Cân Deio yn null celfydd a glanwaith beirdd canol y 15fed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.