DEVEREUX (TEULU), Lamphey (Sir Benfro), Ystrad Ffin (Sir Gaerfyrddin), Vaynor a Nantariba (Sir Drefaldwyn), Pencoyd (sir Frycheiniog), ayb.

Teulu Normanaidd yr ymsefydlodd cangen ohono yn Swydd Henffordd yn gynnar ar ôl y goncwest ac a ddaeth yng nghwrs amser i feddu tiroedd a dylanwad yn ne a chanolbarth Cymru.

WALTER DEVEREUX Is-iarll 1af Henffordd (c. 1491 - 1559)

Mab hynaf John, arglwydd Ferrers. Dilynodd ei dad fel arglwydd Ferrers yn 1501, gan ddyfod yn is-iarll Hereford yn 1550. Daeth yn aelod o Gyngor Goror Cymru yn 1513; gwnaethpwyd ef yn stiward y tŷ i Mary, tywysoges Cymru, yn 1525, ac yn brif farnwr yn Ne Cymru; yn 1526 daeth yn siambrlen De Cymru a siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Yr oedd hefyd yn uchel stiward Builth ac yn stiward Hen Gaerfyrddin. Daeth i'w feddiant yn 1531 ran helaeth o ystadau Syr Rhys ap Gruffydd, sef yr ystadau a atafaelwyd gan y Goron; trwy hyn daeth Devereux i gael ei gyfrif yn arweinydd yng ngorllewin Cymru - 'assumed the leadership of West Wales' (Laws, Little England… 272). Bu mewn anghydfod â William Barlow, esgob Tyddewi (1538), â Henry Somerset, ail iarll Worcester, ynglŷn â stiwardiaeth Arwystli a Chyfeiliog (1538), ac â bwrdeisdrefi Hwlffordd (1536) a Chaerfyrddin Newydd (1540); un effaith o'r cweryl ynglŷn â Chaerfyrddin Newydd oedd gwneud y ddwy Gaerfyrddin yn un fwrdeisdref. Bu'n gomisiwnydd er amddiffyn arfordir De Cymru yn 1539. Rhoddir iddo'r clod o sefydlu ysgol ramadeg Caerfyrddin, sef yr ysgol a alwyd o 1576 ymlaen yn ' Queen Elizabeth's Grammar School.'

Syr RICHARD DEVEREUX (bu farw 1547)

Mab Walter Devereux. Gwasanaethai yn ddirprwy i'w dad yn amryw o'i swyddi yng Nghymru, bu'n faer Caerfyrddin (1536), yn aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin (1545), a chafodd gan y Goron (1547) faenor esgobol Lamphey a drosglwyddasid i'r brenin Harri VIII ychydig yn gynt gan yr esgob Barlow ac a fu'n brif gartref Cymreig i deulu Devereux am ganrif. Enw'r lle yn Gymraeg yw Llantyfai.

WALTER DEVEREUX, iarll Essex (Devereux) ac ail is-iarll Hereford (1540 - 1576)

Mab hynaf Syr Richard Devereux (bu farw 1547). Ganwyd yng Nghaerfyrddin. Trwy gael stiwardiaeth y sefydliadau mynachaidd a ddiddymasid yn y Tŷ-gwyn-ar-Daf, Llanllŷr, a Chaerfyrddin (y Priordy) bu'n abl i gryfhau safle'r teulu fel 'nursing fathers of the ultra-Protestant party' yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin (Laws, 303). Pan ddaeth yn is-iarll Hereford, sef yn 1559, fe'i gwnaethpwyd yn stiward a derbynnydd ('receiver') Builth, Walscot, Gwydigada, ac Elvet, a'r llysoedd Cymreig yn Ceredigion a Chaerfyrddin. Tua'r flwyddyn 1574 fe'i rhoddwyd ar Gyngor Goror Cymru. Yn 1572 fe'i gwnaethpwyd yn iarll Essex; y flwyddyn ddilynol aeth ar gyrch i Iwerddon; arhosodd (oddieithr am ysbaid o wyth mis - Tachwedd 1575 hyd Gorffennaf 1576 - a dreuliodd yn Lamphey) hyd ei farw yn y wlad honno ar ôl iddo fynd yn ôl fel ' Earl Marshal,' 1576; dygwyd ei gorff i'w gladdu yn y lle y'i ganwyd. Bu priodas ei ferch Dorothy â Syr Thomas Perrot yn foddion i roi terfyn ar hen gweryl rhwng y ddau deulu mwyaf blaenllaw yn Sir Benfro ac i ychwanegu at ddylanwad teulu Devereux yno. Pan briododd Dorothy, yr ail waith, gyda Henry Percy, mab iarll Northumberland, trosglwyddwyd llawer o direodd Devereux i deulu Percy - yn eu plith y chwe 'Percy rectories' yn ne sir Gaerfyrddin y bu'r Piwritaniaid yn y ganrif ddilynol yn galw sylw at eu gwerth ariannol a'r modd yr anwybyddid y plwyfolion mewn ystyr grefyddol; gyda chymorth y Parch. William Evans (bu farw 1718) llwyddwyd i gael Llan-y-bri, a oedd yn gapel anwes i un o'r chwech, at wasanaeth nifer o Annibynwyr.

Syr GEORGE DEVEREUX (fl. 1580)

Brawd yr iarll 1af. Bu'n byw wedi marw ei frawd (ac yn ôl telerau ei ewyllys) yn Lamphey nes iddo symud i gartref y teulu yn swydd Stafford (c. 1592). Tua phum mlynedd yn ddiweddarach daeth i fyw i Llwyn-y-brain, gerllaw Llanymddyfri; ymddengys i'r gred (Laws, 303) iddo lochesu Piwritaniaid yn y tŷ hwnnw gychwyn oblegid i Rhys Prichard gael ei ddisgrifio (ar gam) yn Biwritan. Yr oedd yn wastad yn fyr o arian ac yn dibynnu, i raddau helaeth, ar garedigrwydd ei nai, yr ail iarll. Aeth gyda'r nai i'r cyrchoedd ar Rouen (1591-2) a Cadiz (1596) ac yr oedd yn un o'r ' knights of Cales ' a grewyd gan yr iarll ieuanc. Cafodd ei ddrwgdybio o fod â rhan yng ngwrthryfel Essex yn 1601 a chymerwyd ei ystadau oddi arno; ailenillodd arian trwy briodi (1610) Joan, merch Syr John Price (bu farw 1573?) a gweddw Thomas Jones ('Twm Sion Catti '; ganwyd 1530), gan gael gyda hi diroedd eang yn Ystrad Ffin, Sir Gaerfyrddin. Bu'n siryf sir Gaerfyrddin yn 1581 a Sir Aberteifi yn 1587 (pan oedd yn Lamphey) ac eilwaith yn siryf sir Aberteifi yn 1611 (pan oedd yn Ystrad Ffin).

ROBERT DEVEREUX ail iarll Essex a 3ydd is-iarll Hereford (1567 - 1601)

Mab yr iarll 1af. Ganwyd yn swydd Henffordd ond yn 15 oed aeth i Lamphey lle yr oedd ei ewythr Syr George yn byw ar y pryd; o'r tŷ hwnnw hefyd y cymerth ef Rhys Prichard yn gaplan iddo a Gelly Meyrick yn stiward, ' gwas pob gwaith,' ac yng ngeiriau David Mathew (The Celtic Peoples, 1933, 341) 'in Wales …, almost a viceroy.' Yn 1594 seliodd y ' Pembrokeshire Bond of Association ' er amddiffyn y frenhines. Wedi hynny, er ei ddewis yn 'custos rotulorum' sir Benfro, ni fu a fynnai ond ychydig iawn yn uniongyrchol â Chymru, eithr trefnodd Meyrick fod iddo ddilynwyr a phleidwyr ymysg tenantiaid yr ystad, cysylltiadau teuluol, a chymydogion, ac ymysg tenantiaid y Meurigiaid yng ngorllewin Cymru ac yn swydd Faesyfed ac ymhlith milwyr crwydrol o Ogledd Cymru a ddenid i Sir Benfro gan y sôn am ddewrder yr iarll (rhestrau yn Mathew, op. cit., pen. xviii-xxii; E.H.R., lix, 348-70). Detholwyd llawer o'r rhai hyn i swyddi arbenigwyr yn y cyrchoedd ar Rouen (1591-2), Cadiz (1596) - lle y collodd Essex ei frawd Walter a ddygwyd adref i'w gladdu yng Nghaerfyrddin - Azores (1597), ac Iwerddon (1599-1600); glynodd rhai ohonynt wrtho hyd farw yn ei ymgais ddiwethaf am awdurdod (1601).

ROBERT DEVEREUX, 3ydd iarll Essex a 4ydd is-iarll Hereford (1591 - 1646)

Mab yr ail iarll. Ni wyddys iddo ef ddod i fyw ar ystadau'r teulu (er iddynt gael eu dychwelyd i'r teulu yn 1604, wedi i'r taliadau ynglŷn ag 'attainder' ei dad gael eu difodi) oddieithr am gyfnod byr yn 1613 pryd yr ymneilltuodd i Lamphey pan oedd trefniadau ei ysgariad oddi wrth yr arglwyddes Essex 1af ar droed, eithr cadwyd y cysylltiad â gorllewin Cymru pan ddewiswyd ef yn stiward a cheidwad y maenorau brenhinol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Sir Aberteifi (1606), gan ei aelodaeth o Gyngor Goror Cymru (1617), a'i enwi gan y Senedd yn arglwydd raglaw sir Drefaldwyn (Chwefror 1642). Parhaodd llawer o hen ddilynwyr ei dad yn deyrngar i'r teulu: e.e. pan ymunodd ef â llu gwirfoddol Syr Horace Vere a aeth i'r ' Palatinate ' (1620) yr oedd John Meyrick a Rowland Laugharne gydag ef - a bu i'r ddau hyn hefyd ymuno ag ef yn y Rhyfel Cartrefol; eithr bu i deuluoedd Gogledd Cymru a fu'n gwasanaethu'r ail iarll fynd, gan mwyaf, gyda'r ochr arall yn adeg ei fab. Am fanylion ynghylch ei yrfa gweler D.N.B.

Gyda marw'r 3ydd iarll yn 1646 daeth yr iarllaeth i ben, ond parhaodd y cysylltiad a Chymru trwy'r is-iarllaeth, a syrthiodd i ran

WALTER DEVEREUX, 5ed is-iarll Hereford (1578 - c. 1657)

Ŵyr iau i'r is-iarll 1af a chefnder yr iarll Essex 1af. Gwnaeth Tŷ'r Arglwyddi ef yn arglwydd raglaw sir Fynwy yn 1646.

EDWARD DEVEREUX, 8fed is-iarll Hereford (1675 - 1700)

Ŵyr Walter Devereux, y 5ed is-iarll Hereford. Bu'n stiward llysoedd cyrtiau barwn yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, eithr ar ei ôl ef aeth y teitl i gangen yn Sir Drefaldwyn, trwy nai i Syr GEORGE DEVEREUX (bu farw 1665), aelod seneddol, ' recruiter ' dros Drefaldwyn yn y Senedd Hir (1647); llofnododd ef ddatganiad Sir Drefaldwyn o blaid y Senedd (1648). Priododd Bridget, merch ac aeres Arthur Price, Vaynor, Sir Drefaldwyn, a'u hŵyr hwynt, PRICE DEVEREUX (1664 - 1740) a ddaeth yn 9fed is-iarll Hereford. Bu'n aelod seneddol (Tori) dros Drefaldwyn, 1691-1700, yna daeth yn is-iarll; a bu'n arglwydd-raglaw y sir, 1711-4. Bu ei fab ef, PRICE DEVEREUX (1694 - 1748), 10fed is-iarll Hereford, yn aelod seneddol sir Drefaldwyn hyd 1740, sef pan ddaeth i'r teitl ac y daeth hefyd yn brif is-iarll Lloegr. Pleidleisiodd yn erbyn cyflogi milwyr o Hesse (1730), a mesur tollau Walpole, ('Excise Bill,' 1733) ac o blaid diddymu'r Septennial Act (1734). Yn 1719 bu'n siryf Brycheiniog, lle yr etifeddodd ystad Morganiaid Pencoyd, gerllaw'r Gelli. Merch i William Price, Rhiwlas, Sir Feirionnydd, oedd ei ail wraig, a briododd yn 1740. Wedi ei farw ef aeth y teitl i EDWARD DEVEREUX (c. 1710 - 1760), 11eg is-iarll Hereford, efe'n disgyn o fab iau George Devereux (bu farw 1665) ac, o ochr ei fam, o deulu Vaughan, Nantariba, a theulu Glyn Maesmawr - y ddau le hyn yn Sir Drefaldwyn - ac etifeddodd ystadau y ddau deulu. Ganwyd ef, priododd, ac fe'i claddwyd yn sir Drefaldwyn, a barhaodd yn brif ganolfan diddordebau'r teulu nes y daeth GEORGE DEVEREUX (1744 - 1804), 13eg is-iarll Hereford, i'r teitl; trosglwyddodd ef y diddordebau hyn i sir Frycheiniog pan briododd aelod o gangen o'r teulu a ymsefydlasai yno, a gwnaeth Pencoyd yn bennaf cartref iddo. Y mae ei ddilynwyr yn parhau i gymryd diddordeb ym materion gwleidyddol, etc., y sir.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.