NEST (fl. 1120), tywysoges yn Neheubarth

Enw: Nest
Priod: Gerald de Windsor
Partner: Owain ap Cadwgan
Partner: Harri
Partner: Stephen
Plentyn: Angharad de Barri (née de Windsor)
Plentyn: Henry
Plentyn: Robert Fitzstephen
Plentyn: William Fitzgerald
Plentyn: Maurice Fitzgerald
Plentyn: David Fitzgerald
Rhiant: Gwladys ferch Rhiwallon ap Cynfyn
Rhiant: Rhys ap Tewdwr
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: tywysoges yn Neheubarth
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Merch Rhys ap Tewdwr Fawr a Gwladus, ferch Rhiwallon ap Cynfyn. Tua'r flwyddyn 1100 priododd Gerald o Benfro, a bu o leiaf dri mab o'r uniad - William, Maurice, a David Fitzgerald - ynghyd â merch, Angharad, gwraig William de Manorbier a mam Gerallt Gymro. Y mae'n amlwg ei bod yn wraig nodedig o brydweddol a swynol; bu'n ordderch i amryw. Enillodd iddi ei hun enwogrwydd (neu, o'r hyn lleiaf, amlygrwydd) fel ' Helen [ Troea ] Cymru,' oblegid ei chymryd ymaith trwy drais mewn modd rhamantus, a hynny bron ym mhresenoldeb ei gŵr, gan Owain ap Cadwgan yn 1109. Ymysg ei llu o blant yr oedd Robert Fitzstephen a Henry ' filius regis,' mab y brenin Harri I. Ni wyddys pa bryd y bu farw, eithr bu fyw am gryn amser ar ôl y flwyddyn 1136.

Yr oedd merched eraill o'r un enw ond yn llai enwog na'r Nest uchod: Nest, ferch Gruffydd ap Llywelyn, Nest, wraig Bernard Neumarch, a Nest, ferch Gruffydd ap Rhys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.