Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DEWI SANT , sefydlydd ac abad-esgob cyntaf Tyddewi a nawddsant Cymru .

Ni wyddys ei gyfnod yn fanwl ond tebyg iddo farw tua diwedd y 6ed g. ; yn Annales Cambriae cofnodir ei farwolaeth s.a. 601 ond dichon fod dyddiad Chron. Scot.588 — yn nes i'r gwir. Os cywir y traddodiad a gofnodwyd gan Rygyfarch (gw. isod) iddo farw ar ddydd Mawrth, hwyrach mai 589 — dyddiad y cofnod yn Annals of Inisfallen — yw'r dyddiad cywir. Un o fynaich dylanwadol y 6ed g. oedd, ac awgryma'i gyfenw ‘ Dyfrwr ’ (‘aquaticus’) ei fod yn perthyn i'r blaid honno o fynaich a ymorchestai yn llymder eu bywyd asetig ac a elwid ‘aquatici,’ ‘y dyfrwyr.’ Enwir ef gyda Chadog a Gildas yng ‘ Nghatalog Seintiau Iwerddon ’ ( c. 730 ); ac yn ‘ The Martyrology of Oengus ’ ( c. 800 ) nodir 1 Mawrth fel ei ddydd gŵyl. Cysylltir eglwysi â'i enw yn Neheudir Cymru , Llydaw , Cernyw , a deorllewin Lloegr . O'r eglwysi a gyflwynwyd iddo yng Nghymru (a'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u sefydlu ganddo, y mae'n debyg) nid oes yr un i'r gogledd o linell wedi'i thynnu o aber afon Wyre hyd y Clas-ar-Ŵy . Tebyg fod dosbarthiad ei eglwysi yn adlewyrchu'r maes y gweithiodd ynddo, ac awgryma eu lleoliad daearyddol ei fod ef a'i ddilynwyr yn cynrychioli mudiad mynachaidd mwy eithafol a diwygiadol nag eiddo Illtud , Cadog , a Gildas , ac iddo efengyleiddio mewn mannau y tu allan i gylchoedd gweithgarwch ei ragflaenwyr. Cyfeirir ato yn ‘ Arymes Prydein Vawr ’ ( Bk. Tal. 13) yn gynnar yn y 10fed g. fel arweinydd ysbrydol y Cymry yn erbyn y Saeson . Ysgrifennwyd ei Fuchedd gan Rygyfarch ap Sulien , esgob Tyddewi (bu f. 1099 ) , c. 1090 , a hi yw ffynhonnell pob ‘hanes’ am ei fywyd. Dywed Rhygyfarch iddo ddefnyddio hen gofnodion yn Nhyddewi , a rhai ohonynt yn llaw'r sant , ond cymysgedd o lên-gwerin, traddodiadau llafar, a rhai ffeithiau hanesyddol yw cynnwys y Fuchedd. Dywedir ynddi fod Dewi yn fab i Sant , brenin Ceredigion , a Non ( Nonnita yn y Lladin ), iddo gael ei addysgu gan Beulin yn Henfynyw (ger Aberaeron ), iddo sefydlu llawer o fynachlogydd , iddo orchfygu pennaeth Gwyddelig a elwid Boya , ger Tyddewi ; a disgrifir bywyd caled Dewi a'i gydfynaich, y gwyrthiau a wnaeth, ei daith i Gaersalem gyda Theilo a Phadarn , ei waith mewn dwy senedd (yn Llanddewi-brefi a ‘ Lucus Victoriae ’) yn erbyn heresi Pelagius , a'r cwynfan cyffredinol oherwydd ei farw. Yn amser y pab Calixtus II ( 1119-24 ) cyhoeddwyd Dewi 'n sant a'i gynnwys yng nghalendr yr Eglwys Orllewinol . Canodd Gwynfardd Brycheiniog [q.v.] awdl iddo, sy'n cynnwys rhai traddodiadau na cheir ym Muchedd Rhygyfarch . Seiliwyd Buchedd Ddewi gan Gerallt Gymro ( Opera , iii, 377-404) ar waith Rhygyfarch ; felly hefyd ei Fuchedd gan John o Tynemouth ( c. 1290 - 1350 ). Cyfieithiad a chyfaddasiad o waith Rhygyfarch yw'r Fuchedd Gymraeg hefyd; ceir y copi cynharaf yn ‘ Llyfr Ancr Llanddewi-frefi ’ ( 1346 ). Canwyd cywyddau i Ddewi gan lawer bardd , e.e. Iolo Goch , Ieuan Rhydderch ap Ieuan Llwyd , Dafydd Llwyd ap Llywelyn , Rhisiart ap Rhys , a Lewys Glyn Cothi . Yn 1398 cyhoeddwyd gorchymyn gan yr archesgob Arundel i ddathlu ei ŵyl drwy'r holl archesgobaeth, ac yn 1415 gan yr archesgob Chicheley i'w dathlu ‘gydag arweiniad y côr a naw llith.’ Rhoes Calixtus II fraint bendith gyfartal ag un daith i Rufain i ddwy i Dyddewi . Ar hyd yr oesoedd bu Tyddewi'n gyrchfan pererinion , ond ar ôl y Diwygiad Protestannaidd peidiwyd â dathlu Gŵyl Ddewi fel gŵyl grefyddol. O'i hatgyfodi yn y 18fed g. a'i mabwysiadu gan gymdeithasau gwladgarol, daeth yn ŵyl genedlaethol y Cymry .

Ffynonellau:

  • Vita Sancti David per Ricemarchum (Stow-on-the-Wold, 1914) ;
  • Y Cymmrodor , xxiv, 4-28;
  • Wade-Evans , Life of Saint David (1923) ;
  • Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae (Caerdydd, 1944) , 150;
  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , i, 152;
  • S. M. Harris , Saint David in the Liturgy (Caerdydd, 1940) ;
  • The Lives of the British Saints , ii, 285;
  • Y Geninen , xli, 79;
  • Henry Lewis , Hen Gerddi Crefyddol (Caerdydd, 1931) , 43;
  • Antiquity , xix, 175 ff.;
  • Nova legenda Anglie as collected by John of Tynemouth, John Capgrave, and others, and first printed, with new lives, now re-edited with fresh material from MS and printed sources by C. Horstman (1901) , i, 254;
  • Wales , 1944, 30-2.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54