DILLWYN, DILLWYN-LLEWELYN, (DILLWYN) VENABLES-LLEWELYN

O Dillwyn neu Dilwyn (ond ymddengys nad enw Cymraeg mohono - gweler Ekwall, Dictionary of English Place-names) yn sir Henffordd y tarddodd y teulu hwn, mae'n debyg, ond mudodd i Langors ym Mrycheiniog. Ar farwolaeth Jeffrey Dillwyn yno, yn 1677, cyfenwodd rhai o'r teulu eu hunain yn ' Jeffreys,' a mudo i Aberhonddu; darfu'r gainc hon, gellid meddwl, erbyn 1800 (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iii, 65 - ond ar gam y dywedir yno fod y bardd Ieuan Deulwyn yn un o'r teulu). O'r gainc a arhosodd yn Llangors, ac a ddaliodd ar yr hen enw, aeth un, WILLIAM DILLWYN, Crynwr, i Bennsylvania tua 1699 (History of the County of Brecknock, 70). Bu i hwnnw fab, JOHN DILLWYN; dychwelodd ei fab yntau, WILLIAM DILLWYN (1743? - 1824), o America, cartrefodd yn Higham Hall, Walthamstow, a phriododd Sarah Weston (o High Hall, Essex) yn 1777.

Mab iddynt hwy oedd

LEWIS WESTON DILLWYN (1778 - 1855)

Ganwyd yn Ipswich, 21 Awst 1778. Yn 1802 rhoes ei dad arno ofal y ' Cambrian Pottery ' yn Abertawe, a symudodd yntau i'r dref yn 1803, gan fyw ar y cychwyn yn Burrough Lodge ac wedyn yn Sketty Hall. Yn 1814 unwyd gwaith llestri enwog Nantgarw â gwaith Dillwyn, ac arbenigwyd mewn gwneuthur llestri pridd coeth (gweler Williams, Guide to the Collection of Welsh Porcelain at the National Museum of Wales, gyda darlun o Dillwyn). Ond serch iddo wneuthur arbrofion at wella deunydd llestri, naturiaethwr oedd Dillwyn yn y bôn; eisoes yn 1804 yr oedd yn F.R.S., a chyhoeddodd lyfrau sylweddol a phwysig ar lysieueg ac ar gregin (gweler yr ysgrif arno yn y D.N.B. am y rhain - a'r rhestr o'i bapurau llai yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1932-3, 69-70). O 1817 ymlaen rhoes heibio ofal uniongyrchol y gwaith llestri, ac ymroes i fywyd cyhoeddus; bu'n siryf Morgannwg yn 1818, ac yn 1832 enillodd y sedd ychwanegol hyn y Senedd a roddwyd i Forgannwg gan y ' Reform Act ' - daliodd hi hyd 1837. Yn Abertawe, bu'n faer yn 1839; yr oedd yn un o sylfaenwyr y ' Royal Institution of South Wales ' yno; ac yn 1840 cyhoeddodd lyfr bychan ar hanes y dref. Bu farw 31 Awst 1855. Ei briod (1807) oedd Mary, ferch John Llewelyn o Ben-lle'r-gaer, Llangyfelach; o Ynys-gerwn yng Nghwm Nedd yr hanoedd teulu Llewelwyn, ond etifeddasant Ben-lle'r-gaer tua 1790, pan ddarfu llinach eu cefndryd y Prysiaid (Nicholas, Hist. of Glamorgan). Ganwyd o'r briodas hon ddau fab:

(1) JOHN DILLWYN-LLEWELYN (1810 - 1882)

Fe gymerth gyfenw ei daid o ochr ei fam, ac a gartrefai ym Mhen-lle'r-gaer; Ganwyd 12 Ionawr 1810 (The Cambrian, 13 Ionawr 1810); aeth i Goleg Oriel yn Rhydychen (1827); a bu'n siryf Morgannwg yn 1835. Etifeddodd anian wyddonol ei dad yn llawn; bu'n cydweithio â Wheatstone ar berffeithio'r telegraff, ac â Fox Talbot (câr iddo trwy briodas) mewn darganfyddiadau pwysig yn y ddyfais newydd - 'ffotograffi'; yr oedd hefyd yn llysieuydd selog. Bu farw 24 Awst 1882. Ei wraig oedd Emma, ferch Thomas Mansel Talbot o Fargam (gweler Mansel), a'u mab oedd

Syr JOHN TALBOT DILLWYN-LLEWELYN (1836 - 1927), Aelod Seneddol

Ganwyd 26 Mai 1836, a aeth i Eton ac Eglwys Crist (Rhydychen), ac a dyfodd yn wr cyhoeddus amlwg. Bu'n siryf Morgannwg yn 1878, ac yn faer Abertawe yn 1891; dyrchafwyd ef yn farwnig yn 1890. Ar ôl mwy nag un cais seithug i fynd i'r Senedd, bu'n aelod seneddol (Ceidwadol) dros Abertawe o 1895 hyd 1900. Cymerai ddiddordeb mawr mewn addysg ganolraddol; bu'n gryn gefn i Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ac i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd; ac yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth frenhinol ar bwnc y tir yng Nghymru, 1896. Bu farw 6 Gorffennaf 1927. Priododd yn 1861 â Caroline Hicks Beach; bu eu mab hynaf farw cyn dyfod i'w stad, a phriododd yr ail fab ag aeres teulu VENABLES (Llysdinam, y Bont-newydd-ar-Wy), gan newid ei gyfenw i VENEABLE-LLEWELYN - ar y teulu hwn, a hanoedd o sir Gaerlleon, gweler Williams, Hist. of Radnorshire, ail arg., 383-4. Merch oedd hi i Richard Lister Venables (1809 - 1894), ficer Cleiro, a enwir yn fynych yn nyddiaduron Francis Kilvert; brawd iddo oedd George Stovin Venables (1819 - 1888), ysgolhaig clasurol ac ysgrifennwr i'r Saturday Review - y mae ysgrif arno yn y D.N.B., ac erys y cof am ei ymladdfa â'r nofelydd Thackeray pan oeddynt ill dau yn yr ysgol. G. S. Venables a adeiladodd eglwys y Bont-newydd-ar-Wy, ac yno y claddwyd ef. Tad y ddau frawd hyn oedd RICHARD VENABLES, a fu farw ar ddechrau 1858 yn 84 oed (Yr Haul, 1858, 60); bu'n ficer Nantmel, yn archddiacon Caerfyrddin o 1832 hyd 1858 (West Wales Records, v, 152), ac yn gadeirydd cwarter sesiwn sir Faesyfed am 25 mlynedd.

(2) LEWIS LLEWELYN DILLWYN (1814 - 1892)

Ganwyd 19 Mai 1814; addysgwyd yn Bath; priododd (1838) Elizabeth, ferch y daearegwr Syr Henry de la Beche (cyfaill ei dad), ac yr oedd yntau'n rhyw gymaint o ddaearegwr; yn Hendre-foelan y preswyliai. Cynrychiolwyr teilwng o'r dosbarth tiriog yr oeddynt wedi ymbriodi ag ef oedd ei frawd, ac yn fwy fyth ei nai, ond adlewyrchai Lewis Dillwyn yn hytrach ddiddordebau masnachol a diwydiannol, a Radicaliaeth wleidyddol ei dad a'i hynafiaid o Grynwyr. Yr oedd yn wr amlwg ymysg bancwyr a hyrwyddwyr ffyrdd haearn, ond yn amlycach fyth yn natblygiad diwydiannol Abertawe (bu'n faer y dref yn 1848); efe oedd pennaeth cwmni Dillwyn a Richards (y ' Landore Spelter Works'), ac ymhellach ymlaen ymunodd â Siemens yn y ' Landore-Siemens Company ' - yr oedd yn gadeirydd iddo. O 1855 hyd 1885 bu'n aelod seneddol dros Abertawe, ac o 1885 (pan rannwyd yr etholaeth) hyd 1892 dros ranbarth y dref. Ar hyd yr yrfa seneddol faith hon bu'n Radical blaenllaw. Yn y Senedd amddiffynnodd gam y tyddynwyr yng Ngheredigion a drowyd o'u ffermydd ar ôl etholiad 1868, ac amaethwyr sir Ddinbych wedyn yn 'Rhyfel y Degwm' (1886-7); cynigiodd welliant gwrthglerigol i'r 'Endowed Schools Act' (1873); yn 1879, beirniadodd enghreifftiau diweddar o'r defnydd a wneid o hawliau'r Goron. O'r cychwyn (1870) cefnogodd y mudiad i ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru, ac o 1883 ymlaen efe a gynigiai'r penderfyniad (blynyddol bron) yn ffafr hynny; yn 1887 efe a Rendel a ddatganodd ymlyniad y Blaid Ryddfrydol Gymreig wrth ymreolaeth i Iwerddon. Bu farw 19 Mehefin 1892; yr oedd ei unig fab Henry (1843-1890) ac un o'i ferched, Sarah (Essie, g. 1852) wedi marw o'i flaen, ond gadawodd ddwy ferch, Mary (Minnie, 1839-1922) ac Amy (1845-1935).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.