Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DOGMAEL ( DOGFAEL , DOGWEL ) , sant .

Nid oes unrhyw fanylion i'w cael am fywyd y sant hwn ond yn unig iddo fyw yn y 6ed g. Dywed yr achau Cymreig mai mab oedd i Ithel ap Ceredig ap Cunedda Wledig , ac felly cysylltir ef ag un o dri llwyth saint Cymru . A barnu oddi wrth yr eglwysi a gysegrwyd iddo, cyfyngwyd ei lafur bron yn llwyr i sir Benfro ; canys yn y sir honno y mae Llandudoch (ar Deifi ger Aberteifi ), Capel Degwel yn yr un plwyf, S. Dogwel (ger Abergwaun ), Mynachlogddu , a Meline . Yr unig eithriad yw eglwys Llanddogwel ym Môn , gynt yn blwyf annibynnol, ond wedi hynny yn gysylltiedig â Llanfechell . Yn y 12fed g. sefydlwyd mynachlog o urdd y Benedictiaid ar sail prif eglwys Dogmael yn Llandudoch . Ceir olion hanes sant o'r enw Dogmael hefyd yn Llydaw . Nodir dau ddiwrnod yn y gwahanol ffynonellau fel dydd gŵyl y sant hwn, sef 14 Mehefin a 31 Hydref .

Ffynonellau:

  • The Lives of the British Saints , ii, 349-51;
  • Acta Sanctorum Bollandiana , 1643 ff , xxiii, 436-7;
  • Oxford Dictionary of National Biography , xv 185.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54