DURSTON, THOMAS (bu farw 1767), gwerthwr llyfrau ac argraffydd llyfrau a baledi yn Amwythig.

Enw: Thomas Durston
Dyddiad marw: 1767
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwerthwr llyfrau ac argraffydd llyfrau a baledi
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Er nad yw'n sicr mai Cymro oedd Thomas Durston, argraffodd gynifer o lyfrau a baledi Cymraeg nes haeddu ohono gofnod byr yn y gwaith hwn. Dechreuodd argraffu yn Amwythig yn 1711 (e.e. Y Lyfr Gweddi-Gyffredin, Y Cydymmaith Goreu; yn y ty a'r stafell, cystal ac yn y Deml). Cafodd ryddfreiniad y 'Combrethren of Saddlers' ar 23 Mai 1714. Y mae'n debyg iddo barhau mewn busnes hyd ei gladdu ar 26 Medi 1767. Ynglyn â'i ddiffyg egwyddor ynglyn a gwaith argraffwyr eraill, gweler J. H. Davies, 'Early Welsh Bibliography,' yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1897-8. Am deitlau rhai o gynhyrchion ei wasg gweler y ffynonellau a enwir isod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.