Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DYER , JOHN ( 1699 - 1757 ), bardd ;

ail fab Robert Dyer , cyfreithiwr a oedd yn byw yn Abersanen , Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, ar y pryd. (Yn 1710 prynodd Aberglasney, ym mhlwyf cyfagos Llangathen). Bedyddiwyd John yn eglwys Llanfynydd 13 Awst 1699 a thebyg mai yn Abersanen y'i ganwyd ychydig cyn hynny.

Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Westminster , aeth John i swyddfa ei dad, a phan fu hwnnw f. aeth yn ddisgybl i Jonathan Richardson ( 1665 - 1745 ), awdur Theory of Painting , 1715 . Yn ddiweddarach crwydrodd Dyer trwy Dde Cymru a'r gororau i baentio . Er mwyn datblygu ei ddawn artistaidd aeth i'r Eidal ; yno dug adfeilion baddondy Caracalla ar gof iddo y deri ‘ On Merlin's mount, or Snowden's rugged sides ’ a'u canghennau wedi eu gwasgaru gan y storm. Yn 1726 dychwelodd i Loegr a dod i adnabod Aaron Hill , dramaydd , a'i gyfeillion James Thomson a Richard Savage yn eu plith.

Yn A New Miscellany , y tybir ei gyhoeddi yn 1726 , ymddangosodd ‘ Grongar Hill ,’ cân Dyer mewn llinellau wyth sillaf; daeth allan yr un flwyddyn mewn fersiwn bindarig yn Miscellaneous Poems and Translations (gol. Savage ), a thrachefn yr un flwyddyn yn Miscellaneous Poems (gol. D. Lewis ) — y tro olaf hwn yn llinellau wyth sillaf. Arferai fersiwn lawysgrif o'r gân fod yn eiddo Lady Hertford — perthynai Dyer a Thomson i'w chylch hi, ac yr oeddynt yn gyfeillion da. Y mae cân ar gael yn mynegi gofid am iddynt ymwahanu; efallai mai yr hyn a roes fod i'r gân ydoedd cynnig a wnaeth Dyer i fod yn amaethwr yn Mapleton , swydd Henffordd . Eithr newidiwyd ei gynlluniau. Priododd ryw Miss Ensor , ac ordeiniwyd ef. O hynny ymlaen bu mewn gwahanol fywiolaethau yn swyddi Leicester a Lincoln ; yn 1751 aeth i wasnaethu yn Coningsby , lle y claddwyd ef 15 Rhagfyr 1757 .

Ysbrydolwyd ‘ Grongar Hill ,’ cân enwocaf Dyer , gan y golygfeydd yn Aberglasney a'r cylch; cyhoeddwyd yn Llanymddyfri yn 1832 fersiwn Gymraeg Thomas Davies , Crugywheel , ohoni. Dwy gân nodedig arall ydyw ‘ The Ruins of Rome ,’ 1740 , a ‘ The Fleece ,’ 1757 ; ceir llawer o atgofion am Gymru yn yr olaf. Y mae i Dyer beth pwysigrwydd fel bardd-baentiwr . Cawsai gwaith yr arlunydd Ffrangeg Claude ddylanwad ar ei farddoniaeth, ac y mae'n bosibl ystyried Dyer yn hytrach na Thomson fel gwir arloesydd barddoniaeth yn disgrifio golygfeydd natur . Talodd William Wordsworth deyrnged iddo mewn soned — ‘ To the Poet, John Dyer .’

Ffynonellau:

  • The Cambridge Bibliography of English Literature , Caergrawnt, 1940 , ii, 315;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Samuel Johnson , The Lives of the Most Eminent English Poets … A new edition, corrected, etc , Llundain, 1794 ;
  • Edward Thomas , rhagymadrodd i Dyer's The poems of John Dyer , Llundain, 1903 , 1913 ;
  • H. S. Hughes yn Modern Philology a journal devoted to research in modern languages and literatures , Chicago xxvii;
  • W. Arthur yn The Red Dragon , x, 208-28;
  • E. W. Manwaring , Italian Landscape in Eighteenth Century England a study chiefly of the influence of Claude Lorrain and Salvator Rosa on English taste, 1700-1800 , Efrog Newydd, 1925 3, 96, 98-101;
  • F. Green , West Wales Historical Records , 1910–29 , VII, 93-108;
  • Belinda Humfrey, John Dyer , 1980;
  • gwybodaeth ychwanegol gan Mr Denys Smith, Llandeilo.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Herbert Gladstone Wright, M.A., (1888-1962), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54