EDGEWORTH, ROGER (? - 1560), diwinydd Catholig

Enw: Roger Edgeworth
Dyddiad geni: ?
Dyddiad marw: 1560
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yng nghastell yr Holt, sir Ddinbych. Aeth i Rydychen tua 1503, graddiodd yn B.A. yn 1507, ac yn 1508 fe'i etholwyd yn gymrawd o Goleg Oriel. Daeth yn bregethwr adnabyddus yn y brifysgol a'r tu allan, a chafodd nifer o swyddi gan ei benodi'n ganghellor eglwys gadeiriol Wells yn 1554. Yn ystod teyrnasiad Harri VIII ac Edward VI bu'n gymedrol iawn, ond o dan y frenhines Mari fe ddangosodd ei fod yn amddiffynnydd selog o'r grefydd Gatholig. Ef oedd awdur (a) 'Resolutions concerning the Sacraments' yn Burnet's History of the Reformation; (b) Resolutions of some questions relating to Bishops and Priests and of other matters to the reformation of the Church made by Henry VIII; a (c) Sermons.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.