Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARD ap HYWEL ap GRUFFYDD (fl. 15 g.), cywyddwr nad oes ond ychydig o'i waith ar gael. Yn N.L.W. MS. 6471 ceir dau gopi o'i gywydd ‘i ofyn klog i Syr Richard.’ Gellir casglu o'r cywydd mai Richard Redman, esgob Llanelwy o 1471 hyd 1496, oedd y gŵr hwn. Priodolir dau englyn i Edward ap Hywel yn Mostyn MS. 144, eithr yn ôl Pen. MS. 99 eiddo Sion Tudur yw un ohonynt.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. MS. 6471;
  • Mostyn MS. 144.

Awdur:

Mrs. Mary Gwendoline Ellis, M.A., Aberystwyth