Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , THOMAS CHARLES ( 1837 - 1900 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900) .

Ganwyd 22 Medi 1837 , blwyddyn agoriad academi'r Bala gan ei dad Lewis Edwards . Derbyniodd ei addysg elfennol dan ofal y Parchn. John Williams , Llandrillo , ac Evan Peters , ac yng Ngholeg y Bala (1852) ( London matriculation 1852 , B.A. 1861 , M.A. 1862 ); ysgolor o Goleg Lincoln , Rhydychen ( 1862-6 ), B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad terfynol (‘ Lit. Hum. ’) ac M.A. (Oxon.) ; gradd D.D. honoris causa o brifysgolion Edinburgh ( 1887 ) a Chymru ( 1898 ). Priododd Mary Roberts , 1867 ; ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu f. 22 Mawrth 1900 .

Dechreuodd bregethu yn 1856 a dylanwadodd diwygiad 1859-60 yn gryf arno. Yn ystod ei wyliau yn Rhydychen gwnaeth waith cenhadol ymhlith y sawl a osodai y rheilffordd i lawr ym Mhenfro . Yn 1866-72 yr oedd yn weinidog eglwys Saesneg Windsor Street , Lerpwl , a symud i gapel mwy Catherine Street yn ystod ei weinidogaeth boblogaidd. Yr oedd yn bregethwr neilltuol rymus a gyfunodd sêl danbaid yr efengylydd gyda diwylliant uchaf yr ysgolhaig ; bu'n pregethu 'n gyson ar hyd y blynyddoedd mewn cymanfaoedd a sasiynau ar hyd a lled Cymru .

Ysgrifennodd esboniad safonol a helaeth ar 1 Corinthiaid , 1885 ; ar yr ‘ Hebreaid ’ (yn yr Expositor's Bible ), 1888 ; ac un Cymraeg ar Hebreaid , 1900 . Creodd ei ddarlith Davies , 1895 , ar y Duw-ddyn beth anesmwythyd ymhlith diwinyddion ei gyfundeb. Yr oedd yn gasglwr llyfrau Cymraeg prin a gwahanol argraffiadau o'r Testament Newydd Groeg , a gwelir hwynt bellach yn llyfrgell Coleg y Bala .

Yn 1872 dewiswyd ef yn brifathro cyntaf y coleg genedlaethol cyntaf ( Aberystwyth ). Ar y cychwyn 26 oedd rhif yr efrydwyr, a 62 erbyn diwedd y tymor, ond yn 1880 nid oedd y nifer ond 57. Dechreuwyd gyda phedwar o athrawon a'r efrydwyr yn byw i mewn. Siomedig fu cynnydd y coleg yn ystod y blynyddoedd cyntaf, yn ôl tystiolaeth pwyllgor adrannol y Llywodraeth ( 1880 ), a chyfrifir amryw achosion am hynny — prinder adnoddau ariannol (hyd 1888 ), tân dinistriol yn 1885 , agor colegau ym Mangor a Chaerdydd , a'r galwadau dibaid ar Dr. Edwards fel pregethwr . Ond wedi pob beirniadaeth hawdd yw cytuno â'r datganiad hwn: ‘If it is no exaggeration to say that without Sir Hugh Owen , the University College of Wales would never have been established, it is certainly less to say that it would never have reached its twentieth birthday but for Thomas Charles Edwards . It was his magnetic personality and his eloquent advocacy that, more than anything else, brought the College triumphantly through its trials’ ( Davies and Jones , The University of Wales , 127).

Yn 1891 ymddiswyddodd — yn bennaf am ddau reswm; bu Aberystwyth yn dreth drom ar ei iechyd, a da fu ganddo, ar gais taer ei gyfundeb, ddilyn ei dad fel prifathro Athrofa'r Bala . Ad-drefnodd y sefydliad hwnnw gan ei droi yn gwbl ddiwinyddol, ac ef oedd llywydd cyntaf Bwrdd Diwinyddol y Brifysgol . Gwanychodd ei iechyd rai blynyddoedd cyn ei farw ( 1900 ), ac ni lwyr sylweddolwyd ei obeithion yn y Bala , ond bu ei gyfraniad yn un godidog i addysg a chrefydd Cymru mewn cyfnod neilltuol o bwysig yn hanes y genedl.

Ffynonellau:

  • W. C. Davies a W. L. Jones , The History of the University of Wales ;
  • T. C. Edwards , Bywyd a Llythyrau y Diweddar Barch. Lewis Edwards, M.A., D.D. , Lerpwl, 1901 ;
  • W. J. Gruffydd , Owen Morgan Edwards Cofiant Cyfrol 1, 1858-1883 , Aberystwyth, 1937 , i;
  • T. R. Jones , Thomas Charles Edwards ;
  • Iwan Morgan (gol.), The College by the Sea , Aberystwyth, 1928 ;
  • G. A. Edwards , Athrofa'r Bala, 1837–1937 ;
  • detholiad Ll.G.C. o lythyrau'n delio â chyfnod T.C.E. yn Aberystwyth (gol. T. I. Ellis) wedi eu cyhoeddi mewn 3 atodiad i Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1952-3).

Awdur:

Y Parchedig Gwilym Arthur Edwards, M.A., D.D., (1881-1963), Croesoswallt

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54