EDWARDS, DOROTHY (1903 - 1934), nofelydd

Enw: Dorothy Edwards
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1934
Rhiant: Edward Edwards
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Harold Mostyn Watkins

Ganwyd yn Ogmore Vale, Sir Forgannwg, merch Edward Edwards, prifathro ysgol, ac ŵyres i'r Parch. Taliesin Jones, Groeswen. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Howells, Llandaf, ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd; graddiodd mewn Groeg ac athroniaeth er mai yn llenyddiaeth Saesneg yr oedd ei diddordeb pennaf.

Cyhoeddodd Rhapsody, casgliad o ystorïau byrion, yn 1927, a Winter Sonata yn 1928. Er fod Winter Sonata ar ffurf nofel yr oedd yn nofel a ysgrifenwyd ar ffurf anghyffredin a gwreiddiol; yr oedd yn dibynnu ychydig ar y 'plot' ond llawer mwy ar safleoedd, ar ddisgrifio cymeriadau, ac, yn arbennig, ar 'awyrgylch,' Dywedai rhai o'r beirniaid llenyddol gorau - Gerald Gould yn eu plith - i'r awdures daro nodyn newydd yn llenyddiaeth Saesneg a chyfrifwyd hi yn un o dri ysgrifennwr gorau'r flwyddyn. Yr oedd dylanwad rhai o nofelwyr Rwsia, Dostoievsky a Turgenev yn arbennig, i'w ganfod yn amlwg ar ei gwaith.

Treuliodd Dorothy Edwards y rhan helaethaf o'i hoes fer yng Nghaerdydd, eithr bu'n byw am chwe mis yn Vienna, naw mis yn Florence, ac am beth amser yn Llundain. Yr oedd hi'n gantores dda hefyd a medrai ganu yn ieithoedd Rwsia, yr Almaen, yr Eidal, ac yn Gymraeg. Yr oedd iddi ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth - mynnai fod yn sosialydd ac yn genedlaetholydd Cymreig ar yr un pryd, er na fedrai siarad Cymraeg. Bu farw 6 Ionawr 1934 yng Nghaerdydd trwy ei llaw ei hun, pan nad oedd ond 31 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.