EDWARDS, EBENEZER (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A. ac yng Nghymru;

Enw: Ebenezer Edwards
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1901
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Llangollen. Bu yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd ac mewn coleg yn U.D.A., lle yr ymfudodd pan oedd yn weddol ieuanc. Ordeiniwyd ef yn 1851 yn weinidog eglwys Bedyddwyr Pittstown, Pennsylvania; bu hefyd yn Cincinnati. Dychwelodd i Gymru yn 1858 a bu'n gweinidogaethu yn Brynmawr a Llanelli. Ailymfudodd i U.D.A. yn 1868 gan dreulio toreth ei amser yn Pennsylvania. O'r llyfrau a ysgrifennodd, y pwysicaf ydyw Welshmen as Factors in the Development of the Republic … Successful Prize Essay … International Eisteddfod … Chicago 1893 … (Utica, N.Y., 1899). Bu farw yn nechrau'r flwyddyn 1901.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.