Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , EDWARD (‘ Pencerdd Ceredigion ’; 1816 - 1897 ), cerddor .

Ganwyd yn Little Darkgate Street , Aberystwyth , mab i John Edwards . Hanoedd o deulu cerddorol, ac yn ddyn ieuanc mynychai yntau eglwys Llanbadarn , lle y ceid canu rhagorol gan y côr. Symudodd y teulu i fyw i Blaenycwm , ger Capel Dewi , dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel y Methodistiaid , a pharhaodd i fod yn arweinydd am dros 70 o flynyddoedd. Daeth i Aberystwyth i ddilyn ei alwedigaeth fel crydd , a daeth i gyffyrddiad â nifer o gerddorion da a drigai yn y dref. Bu am ychydig yn byw yn Nhredegar , Mynwy , ond daeth yn ôl i Aberystwyth . Ffurfiodd gôr yn y Tabernacl , Aberystwyth , ac o dan ei arweiniad perfformiwyd y ‘ Messiah ,’ ‘ Creation ,’ ‘ Seasons ,’ a'r ‘ Twelfth Mass ,’ a chodwyd safon caniadaeth yn y dref. Bu f. 16 Medi 1897 , a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth .

Mab iddo oedd JACK EDWARDS ( 1853 - 1942 ), Great Darkgate Street , Aberystwyth , llyfrwerthwr a oedd yn ddatganwr da , ac a fu yn llanw swydd yn yr Unol Daleithiau fel datganwr ; yr oedd yn eiddgar iawn ym mhlaid ‘ Esperanto .’

Ffynonellau:

  • Y Cerddor , Tachwedd 1897 , a 1917 , 64, 72, 83, 95.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54