EDWARDS, ALFRED GEORGE (1848 - 1937), archesgob cyntaf Cymru

Enw: Alfred George Edwards
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1937
Priod: Margaret Edwards (née Armistead)
Priod: Mary Edwards (née Garland)
Priod: Caroline Edwards (née Edwards)
Rhiant: Louisa Edwards
Rhiant: William Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archesgob cyntaf Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Mab y Parch. William Edwards a Louisa ei wraig, a brawd H. T. Edwards; ganwyd yn rheithordy Llan-ym-mawddwy, Meirionnydd, 2 Tachwedd 1848. Bu am flwyddyn yn y Sefydliad Addysgol Cymreig, Llanymddyfri, ac yna'n ddisgybl preifat; derbyniwyd ef i Brifysgol Rhydychen yn aelod o Goleg Iesu, Ionawr 1870, a graddiodd yn B.A. â chlod yn y clasuron yn 1874 ac yn M.A. yn 1876. Aeth yn athro i'w hen ysgol ac yn 1875 penodwyd ef yn warden yno; urddwyd ef yn ddiacon yn 1874 ac yn offeiriad yn 1875. Yn 1885 daeth yn ficer Eglwys Bedr, Caerfyrddin, ac yn ysgrifennydd i William Basil Jones, esgob Tyddewi. Yn Chwefror 1889 enwyd ef yn esgob Llanelwy, a'i gysegru yn Abaty Westminster, 25 Mawrth. Ar 1 Mehefin 1920 gorseddwyd ef yn eglwys gadeiriol Llanelwy yn archesgob cyntaf Cymru; ymddeolodd Mehefin 1934. Trwy ei oes safodd yn gadarn ac yn eofn dros hawliau'r Eglwys Sefydledig; bu'n wrthwynebydd ffyrnig i Fesur Datgysylltu'r Eglwys, a basiwyd yn 1914, ond drwy ei fedr a'i graffter llwyddodd i sicrhau lleddfu cryn dipyn ar y telerau a geir yn Neddf 1919. Ysgrifennodd Landmarks in the History of the Welsh Church (1912) a chyhoeddodd gyfrol o'i atgofion yn 1927. Dyry'r llyfr hwn ddarlun diddorol o fywyd gwledig Cymru yn y 19eg ganrif. Derbyniodd er anrhydedd raddau LL.D. (Cymru), 1920, D.C.L. (Rhydychen), a LL.D. (Caergrawnt), ac yn 1920 gwnaethpwyd ef yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Iesu, Rhydychen. Priododd yn gyntaf, 1875, Caroline (bu hi farw 1884), merch Edward Edwards, Llangollen, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch; yn ail, 1886, Mary Laidley (bu hi farw 1912), merch W. J. Garland o Lisbon, a bu iddynt fab a merch; yn drydydd, 1917, Margaret, merch y canon J. R. Armistead, o Sandbach, sir Gaerlleon. Bu farw 22 Gorffennaf 1937, a'i gladdu yn Llanelwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.