Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS, JOHN (fl. ail hanner y 17eg g.), pregethwr a Bedyddiwr rhydd-gymunol o'r Fenni, a chrydd wrth ei alwedigaeth. Bedyddiwyd ef yn y Fenni 16 Mehefin 1653, ei ethol yn ddiacon ar brawf 29 Rhagfyr dilynol, a'r un mis yn bregethwr. Yr oedd yn amlwg yn y ddadl fawr ar fedydd yn y dref yr un flwyddyn, ac yn arwyddo'r ‘Humble Representation and Address’ i Oliver Cromwell oddi wrth eglwysi'r Deheubarth a Mynwy yn 1656. Dewiswyd ef gan y profwyr i bregethu yn Llangors (yn Cathedin, medd Calamy), ond collodd ei le i'r offeiriad Thomas Morgan 9 Rhagfyr 1660. Bu'n ffyddlon i'w broffes ar waethaf holl galedi'r erledigaeth, ac ar 10 Awst 1672, yn sgil y ‘Declaration of Indulgence,’ trwyddedwyd ei gartref yn y Fenni yn addoldy. Ni wyddys pa bryd y bu f., ond y mae sôn amdano mor ddiweddar â 1689-90 fel diacon yn eglwys Llangwm, Mynwy, ‘yn ffyddlon yn ei swydd ond yn isel yn y byd.’

Llyfryddiaeth:

  • J. Walker, Sufferings of the Clergy, i, 160; ii, 258;
  • Calamy, Account, ii, 733;
  • Bed. Deheubarth, 1885, 212, 216-8, 245;
  • ibid., 1778, Atodiad, 6;
  • T. Richards, Religious Developments, 45, 51, 386;
  • T. Richards, Wales under the Penal Code. 99;
  • T. Richards, Wales under the Indulgence, 37, 98, 159-60, 198;
  • Joshua Thomas, Hist. Bapt. Assoc., 20;
  • T. Rees, H.P.N., 140-1;
  • N.L.W. Cat. of Civil War Tracts, rhif 141;
  • Spinther, ii, 465-6; iii, 12;
  • J.T.J., i. 232.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth