EDWARDS, JOHN (1692? - 1774), clochydd a bardd

Enw: John Edwards
Dyddiad geni: 1692?
Dyddiad marw: 1774
Priod: Catherine Edwards (née Evans)
Rhiant: Elinora? Edwards
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clochydd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Enid Pierce Roberts

mab John Edwards a'i wraig Elinora (?). Bedyddiwyd ef yn 1692 yn eglwys plwyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ac yno y priodwyd ef a Catherine, merch Evan Evans, Cwm-yr-annel, Carno, yn 1730. Bu'n glochydd Manafon am 50 mlynedd. Cyfansoddodd englynion a charolau, a chyhoeddwyd peth o'i waith yn almanac Evan Davies ('Philomath'), Manafon, 1738, ac yn almanaciau Gwilym Howell, Llanidloes, 1766-75. Claddwyd ef ym mynwent Manafon 14 Ionawr 1774.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.