EDWARDS, JOHN (1755 - 1823), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Edwards
Dyddiad geni: 1755
Dyddiad marw: 1823
Priod: Elisabeth Edwards (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 8 Medi 1755 yn Ereiniog, Penmorfa, tyddyn y bu ei hynafiaid fyw arno am lawer cenhedlaeth. Yn ifanc, byddai'n prydyddu ac yn llunio anterliwtiau, ond tua 1774-5 tueddwyd ei feddwl at grefydd, ac yn 1787 dechreuodd bregethu. Priododd tua 1790 ag Elisabeth Jones o Hafod Ifan (Ysbyty Ifan). Yn 1795 bu raid iddo ymado ag Ereiniog am na fodlonai'r perchennog iddo bregethu; symudodd yn gyntaf i'r Gelli-gynan (Llanarmon-yn-Ial), yna yn 1811 i'r Plas Coch yn Llanychan, ac yn ddiwethaf (1817) i'r Plas yng Nghaerwys. Ym mhob un o'r ardaloedd hyn plannodd achosion Methodistaidd. Yr oedd yn amaethwr gwybodus; ymddiddorai mewn milfeddygiaeth, a chyhoeddodd (Dinbych, 1816) Y Cyfarwyddyd Profedig i bob Perchen Anifeiliaid. Bu farw 19 Tachwedd 1823.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.