EDWARDS, JONATHAN (1629 - 1712), clerigwr a dadleuwr

Enw: Jonathan Edwards
Dyddiad geni: 1629
Dyddiad marw: 1712
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a dadleuwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn Wrecsam. Yn 1655 aeth i Christ Church, Rhydychen, graddiodd yn 1659, a daeth yn gymrawd o Goleg Iesu yn 1662 ac yn ddirprwy-brifathro yn 1668. Daliodd nifer o swyddi a bu'n rheithor Kiddington; rheithor Hinton Ampner; rheithor Llandysul, Sir Aberteifi; ficer Clynnog Fawr; prifathro Coleg Iesu, Rhydychen yn 1686, ac is-ganghellor y brifysgol 1689-91; trysorydd eglwys gadeiriol Llandaf. Bu'n dadlau'n gryf yn erbyn y Sosiniaid a'r Antinomiaid.

Cyhoeddodd A Preservative against Sosinianism yn bedwar rhan (1693-1703). Cyhoeddodd hefyd A Vindication of the Doctrine of Original Sin from the exceptions of Dr. Daniel Whitby (Oxford, 1711). Bu farw 20 Gorffennaf 1712 yn 83 oed. Yn ei ewyllys gadawodd ei lyfrgell i Goleg Iesu. Gadawodd hefyd arian at atgyweirio capel y coleg ac fe'i claddwyd yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.