EDWARD MAELOR (fl. c. 1580-1620), bardd.
Ni wyddys dim o'i hanes, ond ceir nifer o'r gywyddau ac englynion mewn llawysgrifau. Ymhlith y rhain ceir cywyddau mawl i rai o foneddigion Gogledd Cymru, Hwmffre Huws o'r Werclys, Sion Eutun a'i wraig, a chywydd priodas i Andrew Meredydd o Glan Tanad a chywydd marwnad i'r bardd Sion Tudur. Canodd amryw englynion yn cynnwys rhai ymryson â Morys Powel.
Llyfryddiaeth:
- Brogyntyn MSS. 3, 5;
- Chirk Castle MS. 3;
- N.L.W. MSS. 278, 279, 1553, 8330, 10247, 13067;
- Pen. MS. 151.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni