EDWARDS, GEORGE ROWLAND (1810 - 1894), milwr a meistr tir goleuedig

Enw: George Rowland Edwards
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1894
Priod: Catherine Jane Edwards (née Armstrong)
Rhiant: Charlotte Edwards
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a meistr tir goleuedig
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Milwrol
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Ness Strange, Swydd Amwythig, mab hynaf John Edwards (ustus heddwch, dirprwy-raglaw, etc.) a Charlotte, wyres y 3ydd dug Atholl. Cafodd ei addysg yn ysgol Donnington, Swydd Amwythig. Yn 16 oed aeth i wasnaethu'r East India Company. Dychwelodd cyn 1837 a bu'n ysgrifennydd i'r arglwydd Clive adeg terfysg y Siartwyr yn Sir Drefaldwyn; daeth i gael ei adnabod fel 'the man in the great coat with the heavy oak stick who would go at any fence.' Dychwelodd i'r India yn 1839, a bu yn y 2nd Madras Cavalry. Ymneilltuodd o'r fyddin yn 1862 - yn gyrnol erbyn hyn - a dychwelodd i Sir Amwythig. Priodasai yn 1847 Catherine Jane, merch Major-General Armstrong, C.B., ac yn 1850 etifeddasai ystadau ei dad - Ness Strange a Cefnymaes, gerllaw Croesoswallt. Yr oedd yn feistr tir da, yn credu y dylai pob un o'i weithwyr gael cyfran o dir i'w drin. Yr oedd yn gefnogwr cryf i gynllun Jesse Collings - 'tair erw a buwch' - ac ysgrifennodd lawer ar y pwnc arbennig hwn. Bu farw 3 Mawrth 1894, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Great Ness.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.