Arfer Twm oedd cyhoeddi ei anterliwtiau ar ôl eu hactio am ysbaid, ac ymddangosodd amryw ohonynt yn bamffledi yn ystod ei oes. Y mae'r rhai a ysgrifennodd yn ei ieuenctid wedi mynd ar goll, ond erys Tri Chydymaith Dyn , Cyfoeth a Thlodi , Cain ac Abel , Pleser a Gofid , Tri Chryfion Byd , Pedair Colofn Gwladwriaeth , Cybydd-dod ac Oferedd , Y Farddoneg Fabilonaidd . Ceir yn yr anterliwtiau hyn gryn dipyn o feirniadaeth ar arferion cymdeithasol yr oes. Yr oedd Twm yn ŵr ffraeth, ac yn fydryddwr llithrig yn y dull lled-gynganeddol a ddaethai'n draddodiadol erbyn hynny. Y ddwy ddawn hyn sy'n cyfrif am lawer ergyd gyrhaeddgar yn ei weithiau, ac yn cyfrif hefyd fod llawer darn o'i waith wedi byw ar lafar. (Fe gofir fel y byddai Mari Lewis yn dyfynnu Tomos o'r Nant .) Cyhoeddodd gasgliad o'i farddoniaeth o dan y teitl Gardd o Gerddi yn 1790 , a'i argraffu yn Nhrefeca . Yr oedd wedi darllen llawer ar weithiau'r beirdd clasurol, ac oherwydd hynny fe welir rhai trawiadau go fedrus yn ei gywyddau. Casglodd nifer o hen lawysgrifau , a gwerthodd hwy cyn diwedd ei oes i William Owen-Pughe . Y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig .
Yr oedd Twm o'r Nant yn gystadleuydd amlwg yn yr eisteddfodau cyntaf a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion . Yng Nghorwen ym Mai 1789 methodd y beirniaid benderfynu rhwng ei waith ef ac eiddo Jonathan Hughes a ‘ Gwallter Mechain ,’ a gofynnwyd i'r Gwyneddigion dorri'r ddadl. Barnasant hwy Walter yn orau, ond yr oedd David Samwel yn pleidio Twm ac anfonodd ysgrifbin arian iddo yn wobr gysur. Colli a wnaeth Twm hefyd yn eisteddfod y Bala yn mis Medi y flwyddyn honno, ond bu'n chwarae anterliwt yn y dref am rai dyddiau ar ôl yr eisteddfod. Enillodd am gyfansoddi'n fyrfyfyr yn Llanelwy yn 1790 . Cystadlodd yn Ninbych yn 1792 ac yng Nghaerwys yn 1798 , ond nid enillodd.
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor / Aberystwyth.