EDWARDS, WILLIAM (1719 - 1789), gweinidog Annibynnol a phensaer

Enw: William Edwards
Dyddiad geni: 1719
Dyddiad marw: 1789
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol a phensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Crefydd
Awdur: Edward Ivor Williams

Ganwyd yn fferm Ty Canol, Groeswen (ym mhlwyf Eglwysilan), Sir Forgannwg, yn fab Edward Dafydd, a chafodd ei fedyddio ar 8 Chwefror 1719. Wedi i'r tad farw ar 6 Ionawr 1726 symudodd y teulu i Bryntail, fferm arall yn Groeswen, ac yno y bu William Edwards yn byw hyd ei farw ar 7 Awst 1789; claddwyd ef ym mynwent Eglwysilan.

Dechreuodd Edwards bregethu pan oedd tua 22 oed; daethai o dan ddylanwad Edmund Jones a Harri Smith, ei weithiwr yn Bryntail, gwr y synnwyd Edmund Jones gan ei huodledd. Yn 1743 adeiladwyd ty cwrdd bychan yn ymyl cae a elwid Waenfach, yn agos i'r man y saif capel Annibynnol (presennol) y Groeswen arno; soseieti Fethodistaidd oedd y gynulleidfa i gychwyn, eithr ymgorfforodd yn eglwys Annibynnol yn 1745 ac ordeiniwyd William Edwards a Thomas Williams (1717 - 1765) yn gyd-weinidogion arni. Nid oes sicrwydd pendant i Eglwys y Groes-wen ordeinio'i gweinidogion yn 1745. Gweler Thomas William lle y dywedir i William Edwards gael rhyw fath o urddiad tua'r amser hwn. Fel William Edward y mae ei enw wrth y llythyr a anfonwyd i Sasiwn Caeo o blaid urddo cynghorwyr. Dyddiwyd hwn yn Eglwysilan 30 Mawrth 1745 (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru ii, 373-4). Bu Thomas Williams farw 20 mlynedd yn ddiweddarach a pharhaodd Edwards yn fugail hyd ei farw.

Cofir am Edwards yn bennaf, fodd bynnag, fel adeiladydd pontydd - neu, yn fwy cywir, fel pensaer pont Pontypridd, un o'r pontydd mawr mwyaf peryglus ac un o'r rhai a ddefnyddid leiaf yng Nghymru - yn gymaint felly nes y parheid i ddefnyddio y rhyd gerllaw'r bont hyd ganol y 19eg ganrif. Apêl esthetig a gwyddonol a fu i'r bont o'r cychwyn. Oherwydd ei chynllun, sydd yn ddigymar, ei phrydferthwch, a'i chyfrinachau technegol, daeth yn bont y bu mwy o ddadlau yn ei chylch na'r un arall ym Mhrydain, a daeth ag enwogrwydd parhaol i'w chynllunydd. Yr oedd Edwards wedi gwneuthur adeiladau diwydiannol cyn iddo, yn 1746, ymgymryd â'r gwaith o adeiladu pont yn Pont-y-ty-pridd, pentref bychan a elwid wrth yr enw hwnnw cyn geni Edwards. Ni wyddys ddim am y bont-y-ty-pridd wreiddiol. Yr ydym yn ddyledus am hanes ymdrechion Edwards ynglyn â Phont-y-pridd i'w gyfaill (a'i gymydog gynt) Thomas Morgan (1720 - 1799). Ychwanegwyd at adroddiad Morgan, a'i gywiro (i raddau), gan Edwards ei hunan. Gwnaeth Edwards bedwar cynnig (1746-54) cyn iddo lwyddo i gwblhau ei ymrwymiad i wneuthur, am £500, bont a barhâi am saith mlynedd. Wedi i dair pont fethu penderfynodd leihau'r pwysau ar y ddwy ochr (sef y ddwy ochr nesaf i lannau'r afon) trwy wneuthur tri o dyllau crynion ym mhob ochr a thrwy amrywio ar drwch y waliau a oedd ar ochrau'r fynedfa dros y bont. Costiodd y tair ymgais ofer a'r bedwaredd £1,153 18s. 2g. iddo, ac felly bu'r adeiladydd ar ei golled o tua £600.

Gwnaeth Edwards bontydd ym Mrynbuga, Pontardawe, Bettws, Dolauhirion, Wychtree, Aberafan, a Glasbury hefyd; yr oedd rhai ohonynt yn gyffelyb i'r bont ym Mhontypridd, sef yn bontydd un bwa, ond yn llai serth na honno. Gwnaeth lawer o waith pontydd yn sir Fynwy ac ymgymerodd ag ailadeiladu pont Casgwent, ond nis gwnaeth. Gymaint oedd y galw amdano fel peiriannydd a chynlluniwr nes y daeth adeiladu ac atgyweirio pontydd yn alwedigaeth tri o'i feibion, THOMAS, DAVID ac EDWARD. Lladdwyd y pedwerydd mab, WILLIAM, mewn brwydr yn Gibraltar. Thomas a David a wnaeth bont Casnewydd-ar-Wysg, a gwplawyd yn 1801; gwnaethant bontydd Llandeilo, Edwinsford, Betws, etc., hefyd.

Ychydig a ysgrifennodd Edwards; cyhoeddwyd chwech o'i emynau yn 1747. [Tybir bellach mai William Edwards o Gwm-du, sir Frycheiniog, oedd awdur yr emynau hyn, gweler cofiant H. P. Richards isod.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.