EDWARDS, WILLIAM (1790 - 1855), ' Gwilym Callestr ' (ond y mae'n llawer mwy hysbys dan yr enw ' Wil Ysgeifiog'), bardd

Enw: William Edwards
Ffugenw: Gwilym Callestr, Wil Ysgeifiog
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd mewn bwthyn o'r enw Plas Iolyn, Caerwys. Saer melinau oedd with ei grefft, ond yr oedd yn ddyn diarhebol wlyb - fe gofir y disgrifiad doniol ohono gan 'Talhaiarn' (Gwaith, ii, 200-2). Bu mewn gwallgofdy fwy nag unwaith, ac yng ngwallgofdy Dinbych y bu farw. Ond yr oedd yn fardd digon sylweddol, ac yn enwedig yn englynwr da. Enillodd yn eisteddfod Biwmares, 1832, ar yr awdl (Seren Gomer, 1832, 312), ac yn yr Wyddgrug, 1823, ar yr englyn. Yn y gwallgofdy y sgrifennodd ei farwnad i ' Carnhuanawc,' 1853, a welir yn Golud yr Oes, 1863, 112-3. Y mae llawer o'i waith ar chwâl yn Seren Gomer, Yr Eurgrawn, Y Gwladgarwr, Y Geninen, a'r Cymru (O.M.E.). Cyhoeddodd gyfrol, Cell Callestr (Trefriw, 1815), o'i waith ef ei hun ac eraill. Rhoes ' Talhaiarn ' a ' Chaledfryn ' garreg ar ei fedd yn Ysgeifiog. Ni wyddys union ddydd ei eni na'i farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.