EINION WAN (fl. 1230-45), bardd

Enw: Einion Wan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ceir chwe chyfres o'i englynion, sef dwy i Fadog ap Gruffudd Maelor (bu farw 1236 - sef y tywysog y gelwir Powys Fadog wrth ei enw), dwy i Lywelyn ab Iorwerth (bu farw 1240), a chyfres yr un i feibion Llywelyn, sef i Ddafydd (bu farw 1246), ac i Ruffudd. Marwnadol yw'r naill o'r ddwy gyfres i Fadog, ac i Lywelyn, a'r ddwy arall yn gyfresi a ganwyd iddynt yn eu byw. Englynion dadolwch sydd i Ddafydd, ac felly fe'u cyfansoddwyd cyn ei farw yn 1246; y mae'n amlwg fod Gruffudd yn wr rhydd pan ganwyd yr englynion iddo ef, ac felly y mae'n rhaid eu dyddio cyn 1241.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.