ELIAS, THOMAS ('Bardd Coch '; 1792 - 1855), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac emynydd

Enw: Thomas Elias
Ffugenw: Bardd Coch
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1855
Rhiant: Mary Elias
Rhiant: Dafydd Elias
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd Tachwedd 1792 yn Brynteg, Cil-y-cwm, mab Dafydd Elias a Mary ei wraig. Yn 10 oed prentisiwyd ef i deiliwr yn Llanwrtyd. Yn 14 oed, aeth i Ferthyr Tydfil, ond dychwelodd ymhen ychydig flynyddoedd, priododd, a dechreuodd bregethu yn 1822 - ordeiniwyd ef yn 1831. Yn ei flynyddoedd olaf preswyliai ym Mhont Senni, lle y bu farw 14 Mawrth 1855, yn 62 oed. Y mae ganddo gywydd yn Seren Gomer, 1821, 214, a chyhoeddwyd casgliad (Merthyr Tydfil, 1856) o'i emynau, a ' Braslun o hanes bywyd yr awdur.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.