ELLIS, GRIFFITH (1844 - 1913), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Griffith Ellis
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1913
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd 24 Medi 1844 yng Nghorris, cafodd ei ddwyseiddio gan ddiwygiad 1859, a dechreuodd bregethu yn 1863. Bu yn athrofa'r Bala, 1865-9, yn athro cynorthwyol yno, 1870-1; yna aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, a graddio'n B.A. yn 1876, gydag anrhydedd yn y clasuron ('Lit. Hum.'), M.A. 1879. Daeth i gyffyrddiad pur agos â'r pennaeth enwog Jowett, ac nid oes fawr ddadl nag ato ef y cyfeirir yng nghofiant y gwr enwog (Abbot a Campbell, ii, 70). Tra bu Ellis yn Rhydychen cododd dylanwad yr athronydd T. H. Green i'w benllanw; un o'i gyd-fyfyrwyr oedd H. H. Asquith. Yr oedd, cyn ymadael â'r brifysgol, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Bootle; cychwynnodd ei weinidogaeth yn ysgoldy'r capel newydd ar Stanley Road, ac ef a bregethodd gyntaf yn y capel (Rhagfyr 1876). Ymdaflodd ar unwaith i'w waith fel gweinidog ac fel aelod o gyfarfod misol Lerpwl, a chododd i'r fath safle o ymddiriedaeth yn y Corff drwy gyfrwng ei bregethu, a'i fugeilio, a'i fedr gweinyddol, fel y cafodd bob anrhydedd posibl yn ei enwad, hyd at fod yn gadeirydd cymdeithasfa'r Gogledd a llywydd y gymanfa gyffredinol. Bu'n aelod o bwyllgor gweithio y genhadaeth dramor am 30 mlynedd, ac yn ysgrifennydd cronfa ei jiwbili. Ef a ddewiswyd i draddodi'r Ddarlith Davies gyntaf (1894); cymerodd yn destun ' Y Syched am Dduw,' a chyhoeddwyd hi yn 1895. Ddeng mlynedd cyn hyn ymddangosodd ei gyfrol ar Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd; yn 1898 cyhoeddodd gofiant i W. E. Gladstone, ac yn 1906 gofiant Edward Morgan y Dyffryn. Daeth o'r wasg amryw lyfrau llai a llai pwysig o'i eiddo, heblaw amryw byd o ysgrifau yn y cyfnodolion Cymraeg.

Rhydd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, enghreifftiau o'i gof crafangog pan yn hogyn ieuanc, ac erys lliaws o bobl yn y byd heddiw i dystio i ryfeddodau ymron annaearol y cof hwnnw; byddai camgyfleu dyddiad yn bechod anfaddeuol ganddo. Yr oedd y cofiannau a ysgrifennodd yn batrymau o gywirdeb, ond nid yn y cofiannau hyn, nac yn ei lyfrau eraill, yr oedd cuddiad ei gryfder; fel cofiannydd tueddid ef i fanylu'n ormodol ac i ddefnyddio peth wmbredd o ddyfyniadau; nid oedd llawer o wreiddioldeb ynddo fel pregethwr na diwinydd. Ond fel dyn a gweinidog prin y medrai'r grasusau Cristnogol gael dyfnach daear nag ynddo ef. Syberwyd wedi ei thymheru â gras, synnwyr cyffredin yn llawforwyn yr ysbryd; gofal sicr am bethau bychain, doethineb mawr gyda phethau mawrion. Patrwm o fugail; tyfodd eglwys Stanley Road yn un o eglwysi mwyaf y Corff, mawr mewn rhif, mewn gweithgarwch, mewn diwylliant crefyddol. Rhoddid pob addysg a chyfle i'r bobl ieuainc; llywiai'r gweinidog y cyfarfod gweddi a'r seiat a'r eglwysi annibynnol yn eu tro. Yn 1911 ymneilltuodd o'r weinidogaeth, ac ar ôl dygn fyddardod a chystudd lled faith bu farw 14 Gorffennaf 1913.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.